Rydym yn gweithio gyda busnesau ac elusennau o bob math, o fanciau ac archfarchnadoedd i elusennau cenedlaethol a rhyngwladol. 

Gall defnyddio’r Gymraeg arwain at ddenu cwsmeriaid a chefnogwyr newydd, yn o gystal a chynyddu enw da eich busnes neu elusen. Bydd cynyddu eich defnydd o’r Gymraeg yn eich helpu i ddarparu gwell gwasanaeth. 

Ydych chi eisiau defnyddio mwy o Gymraeg yn eich busnes neu elusen?  

Mae cannoedd o fusnesau ac elusennau eisoes wedi manteisio ar arbenigedd a phrofiad ein tîm. Dyma ambell enghraifft o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig: 

  • Edrych ar eich defnydd o’r Gymraeg trwy ein holiadur hunanasesu
  • Eich helpu i greu Cynllun Datblygu’r Gymraeg i roi ffordd glir ymlaen i’ch busnes neu’ch elusen
  • Eich helpu i weithio tuag at gymeradwyaeth swyddogol y Cynnig Cymraeg
  • Cymorth un i un i drafod pynciau megis dylunio dwyieithog, cyfryngau cymdeithasol, a recriwtio staff a gwirfoddolwyr
  • Cynnal sesiynau hyfforddiant a digwyddiadau rhwydweithio rheolaidd er mwyn rhannu arferion gorau
  • Creu canllawiau ymarferol ar sawl agwedd o ddatblygu gwasanaethau Cymraeg
  • Eich cefnogi i hyrwyddo eich gwasanaethau Cymraeg er mwyn cynyddu’r defnydd ohonynt 

Gallwn esbonio sut i gynllunio yn effeithiol a hwylus i wneud y Gymraeg yn rhan o’ch gweithgareddau bob dydd. Cysylltwch gyda ni am sgwrs: hybu@cyg-wlc.cymru 

Logo Y Ganolfan Dysgu Cymraeg

Cryfhau sgiliau Cymraeg eich gweithlu

Mae’r Tîm Hybu yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol i gefnogi sefydliadau i ddatblygu sgiliau Cymraeg eu gweithlu drwy eu cynllun Cymraeg Gwaith.

Fel rhan o’r broses o dderbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg byddwn yn cyd-weithio gyda’ch sefydliad a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg i gynnig opsiynau gwahanol all gefnogi eich staff, neu gwirfoddolwyr i ddysgu, datblygu, neu godi hyder i ddefnyddio’r Gymraeg.

Poster Iaith Gwaith

Iaith Gwaith 

Cofiwch am ein cynllun Iaith Gwaith (sef ein bathodyn oren). Gallwch archebu bathodyn neu gortyn gwddf drwy gysylltu â ni