Corfforaeth un dyn yw’r Comisiynydd o ran endid cyfreithiol. Mae hyn yn golygu bod y corff yn cynnwys un swydd gorfforedig a gaiff ei chyflawni gan un person.
Y Comisiynydd felly sy’n gyfrifol ac yn atebol am gynnal a gweinyddu’r holl waith a wneir gan y corff a gwneir pob penderfyniad yn enw ac ar ei ran.
Serch hynny, mae nifer o systemau a phrosesau wedi eu gosod o fewn y sefydliad i gynorthwyo’r Comisiynydd gyda’i gwaith ac i sicrhau trefniadau llywodraethiant priodol a chadarn. Mae hyn yn cynnwys Tîm Arwain, Panel Cynghori a Phwyllgor Archwilio a Risg.
Mae Fframwaith Llywodraethiant wedi ei sefydlu sy’n egluro’r trefniadau hyn yn llawn yn cynnwys:
-
ar ba sail mae wedi ei sefydlu;
-
y dull a ddefnyddir i’w lywodraethu a’i reoli;
-
a sut y mae’n atebol am yr hyn y mae’n ei wneud.
Os oes gennych unrhyw bryderon am y ffordd mae’r Comisiynydd yn gweithredu, gallwch gysylltu â ni i fynegi pryder neu i gyflwyno cwyn. Mae rhagor o fanylion ar gael ar sut i wneud hynny ar y dudalen Cwyno am y Comisiynydd.