Beth yw polisi gorfodi?
Dogfen sy’n rhoi cyngor a gwybodaeth ar y ffordd mae’r Comisiynydd yn mynd ati i wneud gwaith gorfodi ydyw ac mae’n rhaid i Gomisiynydd y Gymraeg gael polisi gorfodi.
Wrth arolygu cydymffurfiaeth â safonau’r Gymraeg neu yn sgil derbyn cwyn sy’n codi amheuaeth o fethiant i gydymffurfio â safon bydd modd i’r Comisiynydd ymchwilio a gorfodi sefydliad i gydymffurfio â’u dyletswyddau iaith, os canfyddir eu bod yn methu â chydymffurfio. Mewn rhai achosion difrifol, bydd modd gosod cosb sifil ar sefydliad am fethiant i gydymffurfio
Cyflwyniad byr i gynnwys y polisi gorfodi
Mae’r polisi gorfodi yn rhoi cyngor a gwybodaeth lawn i unrhyw un sydd am wybod sut y bwriada’r Comisiynydd wneud ei waith gorfodi.
Mae’n egluro sut y bydd y Comisiynydd yn trin honiadau o fethiant i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg a pha gamau y bydd fwyaf tebygol o’u cymryd o dan wahanol amgylchiadau. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am yr egwyddorion a’r prosesau y bydd yn eu dilyn wrth iddo wneud ei waith gorfodi.
Mae’r polisi’n ymdrin ag ymchwiliadau. Os amheuir bod sefydliad wedi methu â chydymffurfio ag un neu fwy o safonau a osodwyd arnynt, gall y Comisiynydd gynnal ymchwiliad statudol i’r mater. Wedi cynnal ymchwiliad statudol, bydd y Comisiynydd yn dyfarnu ar sail casgliadau ymchwiliad.
Mae’r polisi’n egluro sut y bydd yn gweithredu os bydd yn canfod methiant neu beidio:
Os bydd y Comisiynydd o’r farn nad yw sefydliad wedi methu â chydymffurfio â safon, o dan adran 76 y Mesur, gall benderfynu:
- peidio â gweithredu ymhellach;
- rhoi cyngor a/neu argymhellion i’r sefydliad neu i unrhyw berson arall.
Gall y Comisiynydd:
- ei gwneud yn ofynnol i sefydliad baratoi cynllun gweithredu at y diben o atal methiant rhag parhau neu rhag digwydd eto;
- ei gwneud yn ofynnol i sefydliad gymryd camau penodol at y diben o atal methiant rhag parhau neu rhag digwydd eto;
- roi cyhoeddusrwydd i fethiant sefydliad i gydymffurfio gyda safonau’r Gymraeg;
- ei gwneud yn ofynnol i sefydliad roi cyhoeddusrwydd i’w fethiant ei hun i gydymffurfio gyda safonau’r Gymraeg;
- osod cosb sifil ar y sefydliad hyd at uchafswm o £5000;
- roi argymhellion i’r sefydliad neu i unrhyw berson arall;
- roi cyngor i’r sefydliad neu i unrhyw berson arall.
- geisio ymrwymo mewn cytundeb setlo gyda’r sefydliad.
Mae yna broses statudol ynghlwm â llunio’r polisi gorfodi, ac mae’r polisi hwn wedi derbyn gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
Derbyniwyd cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru i fersiwn ddiweddaraf y Polisi Gorfodi ar 24 Mawrth 2026, yn unol ag adran 108 Mesur y Gymraeg.
Mae gwybodaeth bellach am sut i gyflwyno cwyn a’n gweithdrefn gwyno ar gael yma.