Yng Nghymru, dylech fod yn gallu byw eich bywyd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Comisiynydd yn hybu ac hwyluso cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
Mae hyn yn cynnwys sicrhau eich bod yn gallu derbyn gwasanaethau yn Gymraeg gan sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru.
O bryd i'w gilydd fe all pethau fynd o’i le. Rhan o waith y Comisiynydd yw ymchwilio i'r achosion hynny.
Nid oes unrhyw gostau ynghlwm gyda chyflwyno cwyn i Gomisiynydd y Gymraeg a bydd pob achos yn cael ei ystyried yn ofalus.

Mae gennych hawl i:
- wneud cwyn os oes amheuaeth bod sefydliad yn methu â chydymffurfio â safonau’r Gymraeg;
- wneud cwyn os oes amheuaeth bod sefydliad yn methu â chydymffurfio â’i gynllun iaith Gymraeg;
- wneud cais i’r Comisiynydd ddyfarnu ar honiad o ymyrryd â’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae hyn yn golygu na ddylai unrhyw un (unai unigolyn neu sefydliad):
- eich atal rhag cyfathrebu yn Gymraeg gydag unigolyn arall;
- ddweud wrthych y byddwch yn dioddef mewn rhyw ffordd oherwydd eich bod yn dymuno cyfathrebu gydag unigolyn arall yn Gymraeg.
Os ydy hyn wedi digwydd i chi, gallwch wneud cais yn gofyn i'r Comisiynydd ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd.