Hysbysiad cydymffurfio yw enw’r ddogfen gyfreithiol sy’n nodi:
- Pa safonau (dyletswyddau) y mae’n rhaid i sefydliad gydymffurfio â nhw;
- Erbyn pryd, sef ‘y diwrnod gosod’.
Y Comisiynydd sy’n rhoi hysbysiad cydymffurfio i sefydliadau. Mae sefydliadau yn cael cyfnod o chwe mis o leiaf o’r diwrnod y maent yn derbyn yr hysbysiad cydymffurfio cyn i’r dyletswyddau ddod yn weithredol.