
Gall datblygiadau cynllunio a’r farchnad dai arwain at heriau a chyfleoedd o safbwynt proffil ieithyddol cymunedau.

Ar y naill law, gall datblygiadau tai arwain at fewnfudo o ardaloedd eraill i gymunedau â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg gan olygu newid prif iaith y gymuned o’r Gymraeg. Ar y llaw arall, gall prinder tai olygu na all pobl ifanc lleol fforddio prynu cartrefi yn eu cymunedau ac felly gall datblygiadau tai newydd sicrhau bod tai fforddiadwy ar gael yn lleol.
Mae ffactorau eraill fel rhai economaidd a chymdeithasol, y cynnydd mewn ail gartrefi a chyflogau isel hefyd yn effeithio ar y farchnad dai a pha mor fforddiadwy yw tai mewn nifer o gymunedau.

Sefydlodd Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 sail statudol i’r angen i ystyried y Gymraeg yn y gyfundrefn gynllunio; ac roedd hynny’n gam arwyddocaol ymlaen.
Mae cyhoeddiadau diweddar yn cynnwys:
Adolygiad o'r ffordd y caiff y Gymraeg ei hystyried mewn penderfyniadau cynllunio