Stad o dai

Mae ail gartrefi wedi bod yn destun dadleuol ers degawdau. Daeth y mater yn amlycach yn fwy diweddar yn sgil Brexit, Covid ac ymgyrchu gan bobl leol a grwpiau pwyso.  

Gall nifer uchel o ail gartrefi mewn cymuned arwain at brinder tai ar gyfer pobl leol a chynnydd mewn prisiau tai sy’n rhoi pobl leol dan anfantais. Gall disodli’r gymuned leol, yn enwedig gan bobl nad ydynt yn breswylwyr parhaol, effeithio ar wasanaethau ac adnoddau lleol ac hyd yn oed arwain at gau ysgolion. Dwy enghraifft o ardaloedd yng Ngwynedd sydd â chanran uchel o ail gartrefi ac lle mae’r ysgol gynradd leol wedi cau yw Aberdyfi (43.31% o’r tai yn ail gartrefi) ac Abersoch (46.36%).  

Mae’r ddau bentref hyn yn enghraifft o effaith arall sy’n gysylltiedig ag ail gartrefi, sef gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg. Mae canran y siaradwyr Cymraeg yn isel yn Aberdyfi ac Abersoch, o’i chymharu â chanran y siaradwyr ar draws y sir. Yn ôl Cyfrifiad 2011 mae 65.4% o bobl Gwynedd yn siarad Cymraeg, ond dim ond 35.5% o drigolion Aberdyfi a 43.5% o drigolion Abersoch sy’n siarad yr iaith. Gwynedd yw’r sir â’r ganran uchaf o ail gartrefi a llety gwyliau yng Nghymru (10.76%). Mae Ynys Môn yn drydydd (8.26%) a Cheredigion yn bedwerydd (5.91%) ar y rhestr. Dangosodd data Cyfrifiad 2011 fod canran y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng yn y siroedd hyn, a ystyrir yn gadarnleoedd y Gymraeg. 

Mae Dr Simon Brooks yn dweud bod rhaid mynd i’r afael ag ail gartrefi ar sail cyfiawnder cymdeithasol ac er lles y Gymraeg mewn cymunedau Cymraeg lle mae nifer sylweddol o dai o’r math. 

Sut ellid gwella’r sefyllfa?  

Yn ystod 2021-2022 cyflwynodd Llywodraeth Cymru sawl cynnig i fynd i’r afael ag effeithiau niferoedd uchel o ail gartrefi a llety gwyliau. Mae’r rhain yn cynnwys cynyddu trethi fel bod rhaid i berchnogion ail gartrefi dalu mwy o dreth wrth brynu’r eiddo yn y lle cyntaf ac wrth dalu treth cyngor arno wedyn. Bydd cynnydd hefyd yn y cyfnodau y mae’n rhaid i lety gwyliau fod ar gael a’i osod er mwyn sicrhau fod perchnogion yr eiddo yn gwneud cyfraniad teg i’r economi leol. Mae newidiadau i’r system gynllunio yn cynnwys cyflwyno dosbarthiadau defnydd newydd ar gyfer prif gartrefi, cartrefi eilaidd a llety gwyliau tymor byr, a rhoi’r pŵer Awdurdodau Lleol orfodi perchnogion i wneud cais am ganiatâd cynllunio cyn bod modd troi prif gartref yn ail gartref neu yn llety gwyliau. 

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi cynnig cynllun i gefnogi cymunedau Cymraeg sydd â nifer uchel o ail gartrefi. Mae’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yn trafod yr economi, gwaith a’r angen am fentrau a datrysiadau lleol a chymunedol. Mae’n sôn am gydweithio, casglu a dadansoddi tystiolaeth a datblygu polisïau wedi eu teilwra. Un o fwriadau’r cynllun yw sefydlu Comisiwn er mwyn diogelu dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol.  

Cynhaliodd y Llywodraeth ymgynghoriadau ar y cynigion uchod i gyd a gellir darllen amdanynt yn llawn trwy glicio ar y dolenni yn yr adran ‘Darllen pellach’ isod. 

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi cyhoeddi adroddiad ar y mater, Ail Gartrefi, yn dilyn ymchwiliad y cyfrannodd y Comisiynydd ato. Mae’n gwneud 15 o argymhellion ar gyfer y Llywodraeth. 

Beth yw barn Comisiynydd y Gymraeg? 

Mae’r Comisiynydd yn cefnogi llawer o gynigion y Llywodraeth, gan gynnwys y newidiadau i’r systemau cynllunio a threthu. 

Bydd angen monitro effeithiau’r newidiadau yn ofalus, gan y Llywodraeth ac Awdurdodau Lleol. 

Bydd rhaid sicrhau bod Awdurdodau Lleol yn cael cyfarwyddiadau manwl ar sut i weithredu polisïau’r Llywodraeth, ac efallai adnoddau ychwanegol i wneud y gwaith o gasglu tystiolaeth, monitro a chymryd camau gorfodi os oes angen. Bydd rhaid sicrhau bod digon o adnoddau ac arbenigedd gan y Comisiwn newydd hefyd.  

Mae’r Comisiynydd, ymhlith eraill, wedi galw ar y Llywodraeth i ddefnyddio data cyfoes i gadw llygad ar gynaliadwyedd cymunedau a gweithredu’n amserol ac yn effeithiol i warchod cynaliadwyedd y Gymraeg. (Gallai’r data gynnwys nifer y plant yn yr ysgolion lleol, cyfrwng iaith yr ysgolion, nifer y preswylwyr parhaol yn y gymuned, nifer yr ail gartrefi a phatrymau pryniant tai, cyflogadwyedd, a mynediad at wasanaethau a thrafnidiaeth gyhoeddus.) 

Bydd rhaid hefyd mynd i’r afael â fforddiadwyedd tai a gallu pobl leol i gystadlu yn y farchnad dai. 

Ymatebodd y Comisiynydd i bob un o’r ymgynghoriadau a gynhaliodd y Llywodraeth yn y maes hwn a gellir darllen yr ymatebion trwy glicio ar y dolenni yn yr adran ‘Darllen pellach’ isod. 

Beth nesaf? 

Mae’r Comisiynydd wedi tynnu sylw’r Llywodraeth ar yr angen i fonitro’n ofalus unrhyw effeithiau y gallai ei chynigion eu cael. Un enghraifft yw’r perygl, wrth osod trothwy ar gyfer rheoli ail gartrefi, y gallai cyfyngiadau mewn un ardal annog cynnydd yn nifer yr ail gartrefi mewn ardaloedd eraill gerllaw. Mae’n bwysig, felly, bod y Llywodraeth yn hyblyg, yn barod i ymateb i newidiadau ac yn  cynllunio’n barhaol ar sail rhagdybiaethau ar gyfer y dyfodol. Mae’r Comisiynydd wedi pwysleisio hefyd, tra bod potensial i gynigion y Llywodraeth gael effaith gadarnhaol ar gymunedau Cymraeg, bod angen mwy o waith i helpu pobl leol i gael mynediad i’r farchnad dai. Bydd gwaith y Comisiynydd yn parhau, yn cadw llygad ar y maes cymhleth hwn ac yn cefnogi cymunedau Cymraeg. 

 

Darllen pellach 

Adroddiadau 

Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd (2020), Rheoli’r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau  

Simon Brooks (2021), Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru  

Dyfan Powel, et al. (2021), Ymchwil i Ddatblygu Sylfaen Dystiolaeth ar Ail Gartrefi 

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (2022), Ail Gartrefi 

Holiday homes are ‘hollowing out’ coastal areas, says MP | Housing | The Guardian 

‘Everyone wants a piece of Cornwall’: locals up in arms over second homes | Housing | The Guardian 

Ymgynghoriadau’r Llywodraeth 

  1. Trethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar
  2. Diwygiadau i hawliau datblygu a ganiateir
  3. Deddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr
  4. Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg
  5. Amrywiadau lleol i gyfraddau’r dreth trafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi 
  6. Gorchymyn Ardrethi Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 drafft

Ymatebion y Comisiynydd  

  1. Trethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar
  2. Diwygiadau i hawliau datblygu a ganiateir
  3. Deddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr
  4. Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg
  5. Amrywiadau lleol i gyfraddau’r dreth trafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi
  6. Gorchymyn Ardrethi Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 drafft

Ymchwiliad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i ail gartrefi 

Ymgynghoriad (senedd.cymru) 

Ymateb y Comisiynydd i’r ymchwiliad  

Ail gartrefi (comisiynyddygymraeg.cymru)