Arwydd ffordd

Mae’n rhaid i fwyafrif sefydliadau cyhoeddus Cymru ddilyn dyletswyddau o ran y Gymraeg. Mae hyn naill ai o dan drefn safonau’r Gymraeg, neu o dan drefn cynlluniau iaith Gymraeg. 

Llun o arwydd parcio

Cyn 2011, dim ond cynlluniau iaith oedd yn bodoli, a hynny o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.  

Yn 2011 pasiwyd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 - y Mesur. Mae Deddf yr Iaith Gymraeg wedi ei disodli gan y Mesur. Mae sefydliadau yn raddol yn symud o weithredu cynlluniau iaith i safonau’r Gymraeg.  

 

Arwydd lifft

Cyn bod modd i’r Comisiynydd osod safonau ar sefydliad, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo rheoliadau Safonau’r Gymraeg. Llywodraeth Cymru sydd yn paratoi rheoliadau. Mae rheoliadau yn: 

  • nodi pa sefydliadau sy’n gallu dod o dan safonau’r Gymraeg;   
  • rhestru yr holl safonau (dyletswyddau) y mae’r Comisiynydd yn gallu eu rhoi ar  sefydliad.  
Block background image

Safonau'r Gymraeg

Dysgwch ragor am y Safonau, yn cynnwys pwy sy'n eu gweithredu a'u pwrpas.

Safonau'r Gymraeg
Block background image

Cynlluniau iaith

Beth yw pwrpas cynlluniau iaith?

Cynlluniau iaith