Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn arf pwerus sy’n cael ei ddefnyddio er mwyn cyfathrebu a marchnata.
Fel busnes neu elusen, mae angen i chi adeiladu presenoldeb cryf ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod eich mudiad yn ffynnu ac yn llwyddo. Mae’r dudalen hon yma i’ch helpu chi i Gymreigio eich cyfryngau cymdeithasol a chynnig syniadau ar sut i greu a rhannu cynnwys dwyieithog.
Pam?
Mae sawl rheswm pam bod cwmnïau ac elusennau yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol:
- Cyfathrebu
- Cysylltu
- Magu perthynas gryfach
- Codi proffil
- Dylanwadu ar newid
- Hybu cefnogaeth
- Codi arian/gwerthu
Iaith
Syml! Heb iaith, nid ydych yn gallu cyfathrebu gyda’ch cynulleidfa, a dydyn nhw ddim yn gallu cyfathrebu gyda chi.
Dangos emosiwn yw’r ffordd fwyaf pwerus i ddylanwadu ar eich cwsmeriaid a’ch cynulleidfa i brynu eich cynnyrch neu i gefnogi eich achos.
Mae cyfathrebu gyda’ch cwsmeriaid a’ch cynulleidfa yn Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol yn golygu eich bod â’r cyfle gorau i sicrhau eu bod yn buddsoddi yn eich busnes neu’ch elusen.
Beth ddywedodd busnesau wrthym ni?
- Mae 90% o’n busnes yn dod gan siaradwyr Cymraeg.
- Mae 80% o’n helw yn dod o ganlyniad i bostio’n ddwyieithog.
- Mae postio’n ddwyieithog yn sicrhau ein bod ni’n cael ein gweld.
- Mae postio’n ddwyieithog wedi codi’n proffil yng Nghymru.
- Mae’n cynulleidfa ar-lein yn fodlon teithio er mwyn derbyn ein gwasanaeth cyfrwng Cymraeg.
- Mae’n cwsmeriaid ar-lein yn fodlon talu mwy gan ein bod yn darparu gwasanaeth dwyieithog.
Beth ddywedodd elusennau wrthym ni?
- Mae postio’n Gymraeg wedi denu mwy o noddwyr i’n elusen.
- Mae postio’n ddwyieithog wedi galluogi i ni ddenu cefnogwyr newydd yng Nghymru.
- Mae cyflwyno ychydig o’r Gymraeg yn ein negeseuon yn dangos ein bod yn talu sylw i'n hunaniaeth Gymreig.
- Mae ein helusen wedi dod yn fwy cynhwysol o ganlyniad i bostio’n ddwyieithog.
- Mae negeseuon dwyieithog wedi codi’n proffil yng Nghymru.
Cam 1
Cam 2
Cam 3
Angen cymorth? Os oes angen mwy o gymorth arnoch i fynd ati i Gymreigio eich cyfryngau cymdeithasol, cysylltwch â’n tîm: Hybu@cyg-wlc.cymru
Ewch amdani!