
Gwasanaeth ymgynghorol ar enwau lleoedd
Rydym yn cynnig cyngor i unigolion a sefydliadau o bob math ar ffurfiau safonol enwau lleoedd yng Nghymru.
Mae’r gwaith o safoni enwau lleoedd yn digwydd ers degawdau yng Nghymru. Ddiwedd y 1960au, yn dilyn ymgyrchoedd i ddifrodi arwyddion ffordd uniaith Saesneg, comisiynodd Llywodraeth San Steffan adroddiad ar ddiffyg arwyddion ffordd dwyieithog yng Nghymru. Derbyniodd y Llywodraeth argymhellion yr adroddiad y dylid codi arwyddion dwyieithog yng Nghymru a bod angen sefydlu pwyllgor i gynghori awdurdodau lleol, y Post Brenhinol, yr Arolwg Ordnans ac eraill ar sut i sillafu’r enwau’n gywir. Yn sgil datganoli, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb hwn o’r Swyddfa Gymreig i Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ac yna i Gomisiynydd y Gymraeg yn 2012.
Gwaith y Panel Safoni Enwau Lleoedd
Mae gan y Comisiynydd banel o arbenigwyr i’n cynorthwyo â’r gwaith hwn, panel sy’n cynnwys academyddion, cynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru a chynrychiolaeth o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Prif waith y Panel Safoni Enwau Lleoedd yw dehongli, diweddaru ac ymestyn y confensiynau safoni a geir yn y cyfeirlyfr Rhestr o Enwau Lleoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1967). Bydd y panel hefyd yn ystyried ystyr, hanes a tharddiad yr enwau lleoedd ynghyd â'r defnydd cyfredol ohonynt wrth lunio'i argymhellion.
Mae’r confensiynau a’r egwyddorion y mae’r panel yn eu dilyn wrth safoni enwau lleoedd wedi eu crynhoi mewn dogfen o ganllawiau. Wrth ddilyn y canllawiau cenedlaethol hyn, nod y Panel Safoni Enwau Lleoedd yw:
- anelu at gysondeb cenedlaethol yn y ffordd y caiff enwau lleoedd eu sillafu;
- osgoi amlhau ffurfiau;
- cydymffurfio ag egwyddorion orgraff safonol Cymraeg modern.
Ymgynghori a chydweithio â sefydliadau
Rydym yn ymgynghori ac yn cydweithio’n agos ag awdurdodau lleol ar draws Cymru er mwyn sicrhau bod barn a gwybodaeth leol yn cael eu hystyried yn y broses safoni. Mae gennym hefyd berthynas agos â’r Arolwg Ordnans ac rydym yn cynghori’r Arolwg yn ôl y gofyn ar y ffurfiau i’w defnyddio ar eu mapiau.
Rydym yn falch o gydweithio â nifer o sefydliadau sy’n ymddiddori mewn enwau lleoedd i hyrwyddo statws a phwysigrwydd enwau Cymru.
Dolenni defnyddiol
- Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru
- Rhestr o Enwau Hanesyddol Cymru
- Cronfa ddata enwau lleoedd: Archif Melville Richards
- Yr Arolwg Ordnans
- Mapio Cymru