
Mae cynllun iaith Gymraeg yn ddogfen statudol sy’n nodi beth mae sefydliadau cyhoeddus yn ymrwymo i’w wneud yn Gymraeg, a sut y byddant yn mynd ati i drin y ddwy iaith yn gyfartal. Y Comisiynydd sy’n eu cymeradwyo’n statudol.

Mae’r math o sefydliadau sydd â chynlluniau iaith yn cynnwys:
- Cynghorau tref a chymuned
- Cwmnïau dŵr
- Adrannau gweinidogol Llywodraeth y DU
- Adrannau an-weinidogol
- Asiantaethau a sefydliadau cyhoeddus eraill
- Cymdeithasau tai.
Mae rhai sefydliadau yn paratoi cynllun iaith ar sail wirfoddol.