Enwau lleoedd tramor
Gallwch ddod o hyd i restrau o enwau gwledydd a thiriogaethau tramor ar safle BydTermCymru ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dyma’r enwau Saesneg a Chymraeg ar wledydd sofran, Dibyniaethau Coron y DU a Thiriogaethau Tramor y DU. Mae’r rhestrau hyn yn adlewyrchu’r Mynegai Enwau Daearyddol a geir ar wefan y Swyddfa Dramor, Y Gymanwlad a Datblygu.
Mae’r enwau Cymraeg yn ffrwyth gwaith safoni ar y cyd rhwng Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru a Phanel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg.
Cysylltwch â ni ag unrhyw ymholiadau am enwau Cymraeg ar leoedd tramor.