Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn nodi pwysigrwydd datblygu economaidd ar gyfer hyfywedd y Gymraeg. Er y gydnabyddiaeth i bwysigrwydd y cyswllt rhwng yr iaith a’r economi, prin yw’r sail dystiolaeth sy’n cefnogi’r cysylltiad hwn ac mae tuedd i iaith a’r economi gael eu trafod mewn termau cymharol gyffredinol.
Credwn fod angen i wneuthurwyr polisi gynefino gyda’r ymchwil sydd ar gael yn y maes a thalu sylw i adroddiadau ar berthynas economi ac iaith, a sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i unrhyw strategaethau neu gynlluniau datblygu economaidd. Golyga hyn ystyried sut gall y Gymraeg elwa’r economi, a sut gall datblygiadau economaidd gryfhau sefyllfa’r iaith ar draws Cymru.
COVID-19
Rydym yn bryderus am effeithiau COVID-19 ar y Gymraeg. Yn y tymor byr mae wedi tarfu ar gyfleoedd cymdeithasol i ddefnyddio’r Gymraeg ac wedi effeithio’n negyddol ar nifer o fudiadau cenedlaethol a lleol sy’n gweithio er ei budd. Rydym yn awyddus i ddeall yn well sut y bydd y newidiadau cymdeithasol ac economaidd a ddaw yn sgil y pandemig yn effeithio ar y Gymraeg o safbwynt cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith.
Mae ein gwaith allweddol diweddar yn y maes hwn yn cynnwys:
- Argymhellion ar gyfer ystyried y Gymraeg yn y strategaeth ailgodi economaidd yn dilyn COVID-19 ac mewn ymateb i adael yr Undeb Ewropeaidd.
- Galw ar Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r 5ed Senedd i gynnal ymchwiliad ar effaith yr achosion o COVID-19 ar yr iaith Gymraeg a chyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw
- Ymateb i ymgynghoriadau nifer o Bwyllgorau’r 5ed Senedd ar effaith yr achosion o COVID-19 ar faterion o fewn cwmpas eu meysydd gwaith.
- Cyfrannu at drafodaethau ynghylch gweledigaeth Llywodraeth Cymru y bydd 30% o weithlu Cymru yn gweithio o bell yn rheolaidd.