O dan ddarpariaeth Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 mae’n rhaid i nifer o sefydliadau cyhoeddus baratoi cynllun iaith Gymraeg.
Mae sefydliadau yn raddol yn trosglwyddo o weithredu cynlluniau iaith i safonau’r Gymraeg. Bydd sefydliadau cyhoeddus nad ydynt ar hyn o bryd yn gweithredu safonau’r Gymraeg yn parhau i weithredu cynlluniau iaith o dan y Ddeddf.
Mae cynllun iaith yn nodi sut y bydd sefydliad yn rhoi effaith, cyn belled ag y bo’n briodol yn yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol, i’r egwyddor a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg, sef wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal. Mae’r canllawiau statudol yma yn egluro beth sy’n rhaid i sefydliad wneud a’i gynnwys wrth baratoi cynllun iaith.
Mae’r Comisiynydd yn darparu cyngor a chymorth i sefydliadau gyda’r bwriad o osgoi sefyllfaoedd o ddiffyg cydymffurfiaeth a hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg.
Canllawiau statudol
Mae’n hanfodol bod sefydliadau sydd â cynllun iaith yn ymwybodol ac yn deall eu dyletswyddau cyfreithiol yn llawn er mwyn iddynt allu cydymffurfio’n effeithiol gyda’r Ddeddf. Cyfrifoldeb y sefydliadau eu hunain yw i fynd ati i gynllunio ac i ddarparu (neu i gomisiynu) gwasanaethau, i reoli perfformiad, i sicrhau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth eu swyddogion ac i fod yn atebol i’r cyhoedd wrth weithredu’r cynllun.
Os yw’n ymddangos i’r Comisiynydd, boed yn sgil cwyn neu fel arall, bod amheuaeth bod sefydliad wedi methu â chyflawni cynllun iaith Gymraeg, gall gynnal ymchwiliad statudol yn unol ag adran 17 y Ddeddf er mwyn canfod a fu methiant.