Siaradwyr y gynhadledd

Efa Gruffudd Jones

Efa Gruffudd Jones

Efa Gruffudd Jones yw Comisiynydd y Gymraeg a chadeirydd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith.  

Drwy gydol ei gyrfa mae hi wedi gwneud swyddi sydd wedi cyfuno ei diddordeb yn y celfyddydau ac yn y Gymraeg. Gweithiodd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Celfyddydau Cymru cyn cael ei phenodi yn Brif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, yn 2004.  

Yn 2016, fe’i penodwyd yn Brif Weithredwr ar y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sef y corff a ariennir gan Lywodraeth Cymru i roi arweiniad strategol i’r maes dysgu Cymraeg i oedolion yng Nghymru. Cychwynnodd Efa fel Comisiynydd y Gymraeg yn Ionawr 2023. 

Osian Llywelyn

Osian Llywelyn 

Osian Llywelyn yw'r Cyfarwyddwr sy’n gyfrifol am osod cyfeiriad strategol i waith rheoleiddiol Comisiynydd y Gymraeg. Mae'r swydd yn cynnwys gosod a gorfodi dyletswyddau ar sefydliadau i ddefnyddio’r Gymraeg. 

Yn wreiddiol o Bontypridd, cafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Rhydfelen cyn symud i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth.  

Gweithiodd Osian i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac i Gomisiynydd y Gymraeg lle yr oedd yn gyfrifol am osod safonau’r Gymraeg cyntaf ar gyrff cyhoeddus nôl yn 2015. Bu Osian yn gweithio fel Pennaeth Polisi Rheoleiddiol Cymwysterau Cymru, rheoleiddiwr cymwysterau sy’n cael eu cynnig gan gyrff dyfarnu cydnabyddedig yng Nghymru, cyn dychwelyd i weithio i Gomisiynydd y Gymraeg. 

Dylan Hughes

Dylan Hughes

Mae Dylan Hughes yn gyfreithiwr a ymunodd â Llywodraeth Cymru yn 1999 o bractis preifat. Daeth yn bennaeth Swyddfa'r Cwnsler Deddfwriaethol (swyddfa ddrafftio ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru) yn 2011, ar ôl cwblhau secondiadau yn y Comisiwn Ewropeaidd a Chymdeithas Masnach Rydd Ewrop. Fel rhan o'i rôl mae Dylan yn arwain rhaglen Cwnsler Cyffredinol Cymru ar wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, sy’n cynnwys rhoi ar waith brosiect newydd i ddatblygu Codau Cyfraith Cymru. Mae Dylan yn rhoi pwyslais mawr ar bwysigrwydd dwyieithrwydd cyfraith Cymru ac mae ganddo gyfrifoldebau hefyd o fewn y Llywodraeth am agweddau penodol ar bolisi Cymraeg. Yn ogystal â bod yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, mae'n siarad Saesneg a Ffrangeg rhesymol ac mae'n ceisio dysgu Portiwgaleg. 

Ffreuer Owen

Ffreuer Owen

Mae Ffreuer Owen wedi gweithio ym maes y Gymraeg ers dros ddegawd. Cyn dechrau ei swydd bresennol, gweithiodd i Gomisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio i fethiannau gan awdurdodau lleol i gwrdd â safonau’r Gymraeg. 

Mae hi bellach yn gwneud defnydd da o'r profiad hwnnw trwy wneud yn siŵr bod Cyngor Sir Ynys Môn yn cadw at ei ddyletswyddau iaith. Mae Ynys Môn yn un o ddim ond dwy sir yng Nghymru lle mae dros hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg. Fel Rheolwr Polisi a’r Gymraeg, ei phrif gyfrifoldeb yw cynghori a chynnig arweiniad i’w chydweithwyr ar ofynion y safonau. Mae hefyd yn gyfrifol am wasanaeth cyfieithu’r cyngor ac yn arwain cynlluniau i gynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn y sefydliad. 

Prys Davies

Prys Davies

Prys Davies yw Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Cyn ymuno â CNC yn 2019 roedd yn gweithio fel Uwch Was Sifil i Lywodraeth Cymru, yn gweithio mewn amryw o feysydd polisi yn y portffolio Amgylchedd a Materion Gwledig, gan gynnwys polisi datgarboneiddio ac ynni, polisi dŵr a llifogydd, a nifer o brosiectau yn ymwneud â chyfraith, newid sefydliadol a pholisi. Bu’n ymgymryd â sawl swydd arall o fewn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys swyddi yn yr Adran Gyllid, yr Adran Diwylliant ac Iaith Gymraeg (gan gynnwys secondiad i Fwrdd yr Iaith Gymraeg gynt), a chyfnod yn gweithio fel Ysgrifennydd Preifat i’r Prif Weinidog.  

Dona Lewis

Dona Lewis

Dona Lewis yw Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

Mae Dona yn arwain ar holl waith y sector Dysgu Cymraeg, sy’n cynnwys cyrsiau wyneb-yn-wyneb a rhai rhithiol, cynlluniau wedi’u teilwra ar gyfer gweithleoedd a rhaglenni arloesol ar gyfer pobl ifanc. Yn 2022–23, fe ddilynodd 16,905 o ddysgwyr gyrsiau’r Ganolfan, cynnydd o 11% ar y flwyddyn flaenorol. 

Yn enedigol o’r gogledd-ddwyrain, fe ymunodd Dona â’r Ganolfan Genedlaethol yn 2016 fel Dirprwy Brif Weithredwr, yn dilyn gyrfa amrywiol gyda’r Mudiad Meithrin. Fe dreuliodd 16 mlynedd yn gweithio i’r Mudiad mewn gwahanol rolau, gan gynnwys Cyfarwyddwr Gweinyddol, Dirprwy Brif Weithredwr a Phrif Weithredwr dros dro. 

Mae Dona yn Aelod o Gyngor Addysg Oedolion Cymru ers 2020, ac mae’n aelod o banel cynghori i fonitro a chraffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella’r ddarpariaeth o ofal Cymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Dona hefyd yn is-gadeirydd Corff Llywodraethwyr ei hysgol gynradd leol, ger Caerdydd.  

Owain Williams

Magwyd Owain ar aelwyd Gymraeg ei hiaith yng Nghaerdydd a graddiodd yn y Gymraeg a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa yn gweithio i BBC Radio Cymru yng Nghaerdydd fel ymchwilydd, cynhyrchydd rhaglenni ac fel is-olygydd yr orsaf. Ymunodd â thîm Caerdydd Ddwyieithog, sef tîm Cymraeg Cyngor Caerdydd yn 2016 fel cyfieithydd i ddechrau, gan gyfuno hynny wedyn â dyletswyddau fel swyddog polisi yn 2019. Bu’n arwain ar y gwaith o gyflwyno polisi enwi strydoedd newydd Cyngor Caerdydd yn 2019 i gynyddu’r nifer o enwau Cymraeg a dwyieithog ar strydoedd y brifddinas ac erbyn hyn mae hefyd yn arwain y gwaith o ddatblygu’r Gymraeg yng Nghynllun Datblygu Lleol Newydd arfaethedig Caerdydd ar gyfer y ddegawd nesaf.

Ben Screen

Ben Screen

Ben Screen yw Arweinydd y Gymraeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, un o saith Bwrdd Iechyd Cymru sy’n rhan o GIG Cymru. Ef yw arweinydd y Bwrdd Iechyd ar faterion yn ymwneud â’r Gymraeg, gan gynnwys cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg, Cynllun 5 Mlynedd Mwy na Geiriau Llywodraeth Cymru, a hyrwyddo’r iaith yn y sefydliad yn gyffredinol. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn newid diwylliannol a newid ymddygiad er lles y Gymraeg, ac mae ganddo ddoethuriaeth mewn cyfieithu peirianyddol. Astudiodd am ei radd a’i ddoethuriaeth yn y Gymraeg yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. 

Gwyneth Ayres

Gwyneth Ayres

Mae Gwyneth Ayres yn Rheolwr Polisi gyda Chyngor Sir Gâr ers 2010 ac wedi gweithio yn y maes partneriaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn y sector gyhoeddus a chynllunio iaith cyn hynny. Mae’n gyfrifol am ystod o feysydd polisi ar draws y Cyngor gan gynnwys y Gymraeg a Safonau’r Gymraeg, cydraddoldebau, trechu tlodi a materion gwledig yn ogystal â sicrhau gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar draws y Cyngor. Mae’n arwain ar fonitro ac adrodd ar berfformiad y Cyngor ac yn datblygu’r defnydd o ddata ar draws meysydd gwaith y Cyngor. Mae hefyd yn rheoli’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir Gâr. Cyhoeddwyd ail Strategaeth Hybu Sir Gâr yn 2023. Mae gofyniad ar y Cyngor Sir i gyhoeddi’r Strategaeth ac fe’i lluniwyd ar y cyd â phartneriaid Fforwm Iaith Sirol Sir Gâr.

Séamas Ó Concheanainn

Séamas Ó Concheanainn

Cafodd Séamas Ó Concheanainn ei benodi yn An Coimisinéir Teanga gan Arlywydd Iwerddon, Mícheál D. Ó hUigínn, ym mis Rhagfyr 2023. Cyn iddo gael ei benodi, Séamas oedd Cyfarwyddwr Oifig an Choimisinéara Teanga lle roedd yn gyfrifol am arolygu pob agwedd o swyddogaethau’r Swyddfa yn monitro cydymffurfiaeth cyrff cyhoeddus â’r Deddfau Ieithoedd Swyddogol (2003, 2021). Cyn cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Oifig an Choimisinéara Teanga yn 2020, bu mewn swyddi arwain amrywiol yn Acadamh na hOllscolaíochta Gaeilge ym Mhrifysgol Glasgow. Mae gan Séamas brofiad helaeth mewn sawl sector, yn cynnwys addysg uwch, cynllunio ieithyddol, a datblygu cymunedol. 

Cheap Uachtarán na hÉireann, Mícheál D. Ó hUigínn, Séamas Ó Concheanainn ina Choimisinéir Teanga i mí na Nollag 2023. Sular ceapadh é, bhí Séamas ina Stiúrthóir ar Oifig an Choimisinéara Teanga, áit a raibh sé freagrach as stiúradh a dhéanamh ar gach gné de ról na hOifige maidir le monatóireacht a dhéanamh ar chomhlíonadh Achtanna na dTeangacha Oifigiúla (2003, 2021) ag comhlachtaí poiblí. Sular ceapadh ina Stiúrthóir ar Oifig an Choimisinéara Teanga é in 2020, bhí róil cheannaireachta éagsúla aige in Acadamh na hOllscolaíochta Gaeilge in Ollscoil na Gaillimhe. Tá taithí fhairsing ag Séamas ar fud earnálacha éagsúla, lena n-áirítear ardoideachas, pleanáil teanga agus forbairt pobail. 

Dr Fernand de Varennes

Dr Fernand de Varennes

Mae Dr Fernand de Varennes yn Athro Ymweliadol yn Université catholique de Lyon (Ffrainc) ac ym Mhrifysgol Sarajevo (Bosnia-Hercegovina). Rhwng Awst 2017 a Thachwedd 2023, ef oedd Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Lleiafrifoedd. Mae’n aelod o sawl bwrdd cynghori, gan gynnwys byrddau Club de Madrid a’r European Centre on Minority Issues. Mae’n adnabyddus fel un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw’r byd ar hawliau dynol rhyngwladol lleiafrifoedd ac ar atal gwrthdaro ethnig. Mae wedi ennill gwobrau yn yr Almaen, Sbaen, y Deyrnas Unedig a Gwlad Pwyl ac mae ganddo oddeutu 300 o gyhoeddiadau mewn mwy na 30 o ieithoedd.   

Raymond Théberge

Raymond Théberge

Mae gan y Comisiynydd Raymond Théberge ddoethuriaeth mewn ieithyddiaeth o Brifysgol McGill, gradd meistr mewn ieithyddiaeth gymhwysol o Brifysgol Ottawa a gradd baglor mewn hanes o Collège universitaire de Saint-Boniface. Mae ei brofiad o ymwneud â chymunedau ieithoedd lleiafrifol swyddogol yn helaeth. Treuliodd ran fawr o’i yrfa yn Collège universitaire de Saint-Boniface. Bu’n llywydd ac is-ganghellor Université de Moncton, ac fel uwch was sifil bu’n gweithio fel dirprwy weinidog cynorthwyol yn y Bureau de l’éducation française yn Adran Addysg, Dinasyddiaeth ac Ieuenctid Manitoba ac fel cyfarwyddwr gweithredol Cyngor Gweinidogion Addysg, Canada. Yna, cafodd ei benodi’n ddirprwy weinidog cynorthwyol yng Ngweinyddiaeth Addysg a Gweinyddiaeth Hyfforddiant, Colegau a Phrifysgolion, Ontario.