Gwneud cwyn

Gallwch gysylltu â’r Comisiynydd i gwyno os nad ydych wedi gallu derbyn gwasanaeth yn Gymraeg gan sefydliad, neu os ydych yn anfodlon ynghylch y ffordd y mae sefydliad wedi ystyried y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau.  

Myfyrwyr yn eistedd ar risiau

Gallwch gwyno am: 

  • Ddiffyg cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg; 
  • Anawsterau i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith;  
  • Anfodlonrwydd ynghylch sut mae sefydliad yn trin neu ystyried y Gymraeg. 
Llun o fyfyrwyr ar y grisiau

Pa wybodaeth ddylwn i ei rhoi wrth gysylltu?

Wrth i chi gyflwyno eich cwyn rhowch gymaint o fanylion â phosib, sy’n cynnwys: 

  • Beth ddigwyddodd a phryd; 
  • Pwy oedd y sefydliad cyfrifol;
  • Sut gawsoch chi (neu’r person yr ydych yn cwyno ar ei rhan) eich effeithio; 
  • Unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth berthnasol arall;
  • Eich manylion cyswllt, a manylion cyswllt y person yr ydych yn cwyno ar ei rhan (os yn berthnasol);
  • Manylion unrhyw gwyn rydych eisoes wedi ei chyflwyno at y sefydliad.
Swyddogion o'r cyngor yn eistedd ar y grisiau

Os ydych yn cysylltu ar ran rhywun arall, dylech egluro pam eich bod yn cwyno ar ran y person hwnnw.  

Fel arfer, bydd rhaid i'r hyn rydych yn cwyno amdano fod wedi effeithio arnoch chi ond mae hefyd modd cysylltu ar ran rhywun arall mewn rhai achosion (e.e. ar ran plentyn, neu berson bregus).

Rhowch wybod i ni os ydych chi eisoes wedi cwyno wrth y sefydliad. Bydd hyn yn helpu’r Comisiynydd i wybod os all ystyried eich cwyn.

Block background image

Cysylltwch â ni os hoffech wneud cwyn i'r Comisiynydd

Cysylltu â ni