Cyngor technegol

Mae’r cyngor technegol isod ar gyfer swyddogion awdurdodau lleol, datblygwyr tai ac eraill sy’n ymwneud yn ymarferol ag enwau lleoedd yng Nghymru. 

Enwi datblygiadau newydd 

Gall enwi datblygiadau newydd gynnig cyfle i atgyfodi hen enwau hanesyddol neu draddodiadol gan amlygu rhywbeth arbennig am y tirwedd neu am hanes a hunaniaeth lleoliad.  

Mae’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol yn lle da i ddechrau chwilio am wybodaeth neu ysbrydoliaeth am enwau hanesyddol i’w defnyddio. Gallwch hefyd gysylltu’n uniongyrchol â swyddogion y Comisiwn Henebion sy’n cynnal y rhestr hon i ofyn am arweiniad am enwau addas drwy lenwi’r ffurflen ymholiadau ar eu gwefan.  

Dylid pwysleisio nad yw’r ffurfiau sy’n cael eu cofnodi yn y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol yn rhai wedi eu safoni o reidrwydd. Unwaith rydych chi wedi dod o hyd i enw ar gyfer datblygiad newydd, gallwch gysylltu â ni i dderbyn arweiniad ar sut i sillafu’r enw hwnnw’n gywir heddiw. 

Arwydd Hendy-Gwyn

Arwyddion sy’n cynnwys enwau lleoedd 

Wrth gynllunio arwyddion sy’n cynnwys enwau lleoedd, yn enwedig arwyddion sy’n croesawu pobl i dref neu bentref, rhaid cymryd gofal wrth ystyried y ffurf sy’n ymddangos ar yr arwydd. Yn y Gymraeg, mae ymadrodd tebyg i ‘Croeso i...’ yn gallu achosi i’r enw Cymraeg sy’n dilyn dreiglo, e.e. ‘Croeso i Gaernarfon’ neu ‘Croeso i Lanelli’, a gall gweld y ffurf wedi ei threiglo arwain at ddryswch. Rydym yn disgwyl gweld ffurf gysefin enw, hynny yw y ffurf wreiddiol heb ei threiglo, ar arwyddion, felly ‘Caernarfon’ a ‘Llanelli’ yn yr enghreifftiau hyn.

Nodwch bod safonau’r Gymraeg yn gosod gofynion penodol ynghylch lleoliad a chywirdeb y Gymraeg ar arwyddion. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau a lluniadau gweithiol Llywodraeth Cymru ar gyfer arwyddion ar wefan y Llywodraeth: Arwyddion traffig: arwyddion ffiniau.

Yn yr un modd, os yw’r fannod (Y/Yr) yn rhan o enw lle, nid yw’r ffurf gysefin wastad yn eglur os caiff y fannod ei chyfuno â’r llafariad o’i blaen, e.e. ‘Croeso i’r Bala’ neu ‘Croeso i’r Bont-faen’. Y ffurfiau cysefin yn yr enghreifftiau hyn yw ‘Y Bala’ ac ‘Y Bont-faen’. Ar gyfer arwyddion ffordd neu arwyddion lle mae enw lle yn brif elfen, cewch eich cynghori i ddylunio’r arwyddion â’r ymadrodd (fel ‘Croeso i...’) yn ymddangos mewn ffont llai a’r enw lle ar linell ar wahân yn ei ffurf gysefin. Gallwch ystyried hepgor yr arddodiad ‘i’ yn gyfan gwbl gan roi ‘Croeso’ yn unig uwchben neu oddi tan yr enw lle. 

Gallwch hefyd osgoi’r broblem drwy addasu’r ymadrodd sydd o flaen yr enw. Mae modd gwneud hyn drwy ddefnyddio ymadrodd fel ‘Croeso i bentref...’ neu hyd yn oed fachu ar y cyfle i hyrwyddo’r lleoliad drwy ychwanegu elfen ddisgrifiadol fel ‘Croeso i dref hanesyddol...’.