![Graffeg papur a sgrin](/media/ozgnfgpu/2021-delwedd-07-glas.jpg?anchor=center&mode=crop&width=650&height=430&rnd=133603317986830000)
Yn gynharach yn y flwyddyn gwnaeth Comisiynydd y Gymraeg gyhoeddi y byddai dull mwy rhagweithiol o ‘gyd-reoleiddio’ yn cael ei fabwysiadu. Wrth wneud y cyhoeddiad hwnnw, fe nododd fwriad i ddatblygu a gosod deilliannau rheoleiddio clir yn ystod 2024,
Yn gyson â’n hymrwymiad i weithredu dull o gyd-reoleiddio, rydym yn cychwyn ar gyfnod ymgysylltu yn ceisio barn a safbwyntiau rhanddeiliaid ar y deilliannau rheoleiddio isod.
Deilliant 1: Sefydliadau â’r capasiti i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel ar bob achlysur.
Deilliant 2: Defnyddwyr y Gymraeg yn deall ac yn ymwybodol o’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael iddynt.
Deilliant 3: Sefydliadau’n rhoi sylw dyladwy i effeithiau posibl eu penderfyniadau polisi ar y Gymraeg.
Deilliant 4: Sefydliadau’n cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn eu gweithle, gan alluogi staff i weithio yn Gymraeg o ddydd i ddydd.
Deilliant 5: Sefydliadau’n hyrwyddo’r Gymraeg fel y gall pobl ddefnyddio’r iaith yn naturiol yn eu bywydau bob dydd.
Deilliant 6: Sefydliadau â threfniadau llywodraethu a chwynion effeithiol sy’n sicrhau bod buddiannau defnyddwyr y Gymraeg yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo.
Ein bwriad drwy gyflwyno’r deilliannau rheoleiddio yma yw iddynt, ymysg pethau eraill:
- osod Safonau’r Gymraeg a’n gwaith rheoleiddio yng nghyd-destun y weledigaeth genedlaethol o gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg a chynyddu defnydd yr iaith
- darparu datganiadau tryloyw cyhoeddus o'r hyn yr ydym yn bwriadu ei gyflawni, a sut y byddwn yn gallu dangos pan fyddwn wedi ei gyflawni
- sicrhau bod ein gweithgareddau rheoleiddio yn canolbwyntio ar ganlyniadau i ddefnyddwyr y Gymraeg ac yn cael y traweffaith mwyaf ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg
- annog sefydliadau i daro’r cydbwysedd cywir rhwng ffocws ar gydymffurfiaeth caeth a sicrhau canlyniadau da i ddefnyddwyr y Gymraeg.
Daeth y cyfnod ymgysylltu ar y deilliannau rheoleiddio arfaethedig i ben ar 24 Mehefin.