Mae safonau’r Gymraeg a chynlluniau iaith yn egluro sut mae’n rhaid i sefydliadau ddefnyddio ac ystyried y Gymraeg mewn sefyllfaoedd amrywiol, er enghraifft:
- Wrth ddarparu gwasanaethau i bobl eraill;
- Wrth lunio, adolygu ac addasu polisïau;
- Yn y gweithle;
- Yn rhoi cyfleoedd i staff ddefnyddio a datblygu sgiliau iaith Gymraeg;
- Wrth ddelio â chwynion;
- Trwy hybu defnydd o’r Gymraeg;
- Sicrhau bod trefniadau cadarn ar gyfer monitro a chadw cofnodion.
Mae’r Comisiynydd yn sicrhau bod yr hawliau sy’n deillio o’r dyletswyddau yma yn cael eu gweithredu.
Mae gan y Comisiynydd fframwaith rheoleiddio sy'n egluro sut y bydd yn gweithredu ei raglen waith o reoleiddio safonau’r Gymraeg a chynlluniau iaith Gymraeg.
Pwrpas y fframwaith yw egluro sut mae’r Comisiynydd yn rheoleiddio cydymffurfiaeth yn gyffredinol. Mae’n egluro hefyd sut y bydd y Comisiynydd yn mynd rhagddi i hybu a hwyluso gweithrediad y drefn safonau lle mae hynny’n briodol.