Panel Cynghori

Caiff y Comisiynydd ymgynghori â’r Panel Cynghori ynghylch unrhyw fater. Gweinidogion Cymru sydd yn penodi aelodau’r panel. Rhaid i’r panel gynnwys rhwng 3 a 5 aelod bob amser, a bydd yr aelodau’n dal y swydd am 3 blynedd. Mae mwy am waith y panel yn Atodlen 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Yr aelodau ar hyn o bryd yw Anne Davies, Nia Elias, Rona Aldrich, Elin Maher a Gwyn Williams (cadeirydd).

Gallwch ddarllen am waith y panel yn eu cylch gwaith. Mae cofrestr buddiannau y Panel cynghori ar gael yma. 

Bywgraffiadau Aelodau'r Panel Cynghori