Amcanion strategol a’n gweledigaeth

Mae gan y Comisiynydd gynllun strategol corfforaethol am y cyfnod 2022 i 2025, sy’n egluro ein gweledigaeth a’n gwerthoedd, ein pwerau statudol a’n hamcanion strategol. Cliciwch yma i'w ddarllen.

Caiff pwerau a chyfrifoldebau’r Comisiynydd eu gosod yn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Prif nod statudol y Comisiynydd yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Wrth wneud hynny, rhaid i’r Comisiynydd weithio tuag at gynyddu darpariaeth gwasanaethau Cymraeg a chyfleoedd eraill i bobl ddefnyddio’r iaith.

 

Logo Iaith Gwaith ar ddwylo plant

Rhaid i’r Comisiynydd hefyd roi sylw i :

  • statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru
  • y dyletswyddau i ddefnyddio’r Gymraeg sydd wedi eu gosod drwy safonau’r Gymraeg, a’r hawliau sy’n deillio o orfodi’r dyletswyddau hynny
  • yr egwyddor na ddylai’r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru
  • a’r egwyddor y dylai pobl yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Gweledigaeth Comisiynydd y Gymraeg yw Cymru lle gall pobl fyw eu bywyd yn Gymraeg.

Mae gennym bedwar amcan strategol er mwyn cyfrannu tuag at gyflawni’r weledigaeth. Caiff yr amcanion hyn eu rhoi ar waith drwy gyfres o flaenoriaethau mesuradwy dros y tair blynedd nesaf.

Dynes yn gweini mewn caffi

Y blaenoriaethau hyn sy’n sail i’r gweithgareddau a’r prosiectau yn ein cynllun gwaith blynyddol:

  1. Sicrhau tegwch, cyfiawnder a hawliau i siaradwyr Cymraeg
  2. Sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog mewn polisi a deddfwriaeth
  3. Cynnal a chynyddu cydymffurfiaeth sefydliadau gyda’u dyletswyddau statudol
  4. Cynyddu defnydd o’r Gymraeg gan sefydliadau ar draws pob sector
Pobl yn cael sgwrs ar soffa

Ein gwerthoedd craidd:

  • Mae dangos parch at bawb yn ganolog i bopeth a wnawn.
  • Mae bod yn agored ac ymddiried yn ein gilydd yn sylfaen i ddiwylliant ein gweithle.
  • Mae tegwch, gonestrwydd a chysondeb yn greiddiol i bob agwedd ar ein gwaith.
  • Mae cydweithio gydag eraill mewn ffordd briodol a blaengar yn bwysig i ni.