Safonau'r Gymraeg

Rhestr o ofynion cyfreithiol yw safonau’r Gymraeg. Y Comisiynydd sydd yn penderfynu pa safonau i'w gosod ar sefydliadau.

Llun o'r heddlu

Pwrpas safonau’r Gymraeg yw:

  • Ei gwneud yn fwy eglur i bobl yng Nghymru beth i'w ddisgwyl gan sefydliadau;
  • Ei gwneud yn eglur i sefydliadau beth yw eu dyletswyddau o ran y Gymraeg;
  • Sicrhau mwy o gysondeb o ran gwasanaethau Cymraeg a gwella eu hansawdd.

Pwy sy’n gweithredu safonau’r Gymraeg?

Mae dros 120 o sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu safonau’r Gymraeg.

• Cynghorau sir
• Parciau cenedlaethol
• Gweinidogion Cymru (Llywodraeth Cymru)
• Sefydliadau cyhoeddus cyffredinol Cymru a’r DU (e.e. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, S4C, Y Gronfa Loteri Fawr, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
• Tribiwnlysoedd yng Nghymru
• Gofal Cymdeithasol Cymru
• Cyngor y Gweithlu Addysg
• Heddluoedd
• Gwasanaethau tân ac achub
• Colegau addysg uwch ac addysg bellach
• Prifysgolion
• Byrddau iechyd
• Ymddiriedolaethau Gwasanaethau Iechyd Gwladol,
• Cynghorau iechyd cymuned.

Dros amser bydd mwy o sefydliadau yn dod o dan safonau.

Block background image

Hysbysiadau cydymffurfio

Dogfen gyfreithiol sy’n nodi, pa safonau y mae’n rhaid i sefydliad gydymffurfio â nhw ac erbyn pryd.

Hysbysiadau cydymffurfio