Cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith, Cymru #IALC2024

Logo dathlu 10 mlynedd o IALC

Cofleidia dy iaith: Cynyddu defnydd o ieithoedd lleiafrifol a swyddogol

 

Cynhaliwyd wythfed cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yng Nghaerdydd ar 11 Mehefin 2024. Roedd y gynhadledd yn gyfle i archwilio effeithiau trawsnewidiol deddfu o blaid ieithoedd yng Nghymru a thu hwnt. Yn ogystal â sesiynau ymarferol yn rhannu profiadau sefydliadau o Gymru, roedd cyfraniadau gan y prif siaradwyr isod:

  • Raymond Théberge, Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada
  • Yr Athro Fernand de Varennes, Cyn-Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar hawliau lleiafrifoedd
  • Séamas Ó Concheanainn, Coimisinéir Teanga
Cynhadledd IALC 2017

Lansiad Swyddogol y Gynhadledd

 

Cynhaliwyd digwyddiad i lansio'r gynhadledd ar 10 Mehefin ym Mae Caerdydd. Roedd y lansiad yn gyfle i ddathlu dengmlwyddiant y Gymdeithas yng nghwmni:

  • Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg a Chadeirydd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith
  • Delyth Jewell AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol Senedd Cymru
  • Yr Athro Fernand de Varennes, Cyn-Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar hawliau lleiafrifoedd

 

Noddwyd y lansiad gan Delyth Jewell AS.

Diolch arbennig i Darwin Gray am eu nawdd hael.

Block background image

Rhaglen Cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith 2024

Lawrlwythwch y rhaglen yma
Block background image

Siaradwyr Cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith 2024

Siaradwyr y gynhadledd