46%
o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg yn mwynhau chwaraeon tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith yr wythnos
53%
o bobl ifanc 11-19 oed eisiau mwy o weithgareddau chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg (arolwg yr Urdd)
60%
o ddisgyblion Cymru yn mwynhau Addysg Gorfforol ‘yn fawr’ (Uwch na disgyblion di-Gymraeg)
Defnyddio'r Gymraeg mewn chwaraeon
Yn ôl ymchwil Chwaraeon Cymru, mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon a gwirfoddoli.
Mae nifer o resymau pam y dylai clybiau chwaraeon ddefnyddio’r Gymraeg wrth hyfforddi. Gallwch anelu at ddenu mwy o aelodau a gwirfoddolwyr, a sicrhau bod yr aelodau presennol sy’n siaradwyr Cymraeg yn cael chwarae teg.