Rydym yn cynnig sesiynau hyfforddiant i fusnesau ac elusennau ar sut i ddatblygu gwasanaethau dwyieithog.
Rydym yn anelu’r sesiynau at swyddogion sy’n ymwneud â threfnu a chynllunio gwasanaethau Cymraeg o fewn sefydliad.
Rydym yn cynnig nifer o sesiynau drwy gydol y flwyddyn ar y cyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a gallwch gofrestru am gwrs yma.
Os ydych yn derbyn cyllid gan Gronfa’r Loteri Genedlaethol byddwch yn cael eich gwahodd ar gyrsiau penodol.
Gallwn drafod cynnal cyrsiau gyda sectorau penodol. Cysylltwch â ni i drafod ymhellach.
“Roedd y sesiwn o fudd i ni ac roedd y wybodaeth yn glir ac yn effeithiol dros ben. Cawsom lwyth o dips syml ac roedd y wybodaeth yn cael ei drosglwyddo mewn arddull ddealladwy. Os yw eich prosiectau chi yn cael y cynnig i gwneud y sesiynau yma ewch amdani.”
Fforwm Cymunedol Penparcau