Gall y canllawiau isod gynnig cyngor ymarferol ar sut i ddefnyddio rhagor o Gymraeg yn eich sefydliad.
Canllaw hwylus ar sut i greu arwyddion dwyieithog i’ch busnes. Mae’n cynnwys cyngor ar osodiad, sut i osgoi camgymeriadau, ac enghreifftiau go iawn gan fusnesau sy’n gweithio yng Nghymru.
Defnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol: canllaw ymarferol i fusnesau ac elusennau.
Mae ymchwil yn dangos yn glir bod y cyhoedd yn gwerthfawrogi gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg gan fusnesau ac elusennau. Mae’r canllaw hwn yn rhoi arweiniad i elusennau a busnesau ar sut i fynd ati i ddefnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae'r canllaw hwn yn rhoi cyngor ar sut i ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg ochr yn ochr wrth ddylunio deunyddiau - o daflenni gwybodaeth, posteri, neu lythyrau, i wefannau a phecynnau brandio. Mae'n cynnwys enghreifftiau gweledol ac yn tynnu sylw at y prif ystyriaethau ar gyfer dylunio gwahanol fathau o ddeunydd.
Gwneud cais am Gontractau a Grantiau: ystyried y Gymraeg.
Paratowyd y llyfryn hwn ar gyfer y rheiny sy’n gweithio dan gytundeb neu sy’n derbyn grant. Dyma gyfle i ddeall mwy am y gofynion a all gael eu trosglwyddo iddynt i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae’n cynnwys esboniad o sut i ddysgu mwy am y safonau, beth i edrych amdano mewn contractau, a rhai pethau ymarferol am sut i baratoi i gwrdd â’r gofynion hyn.
Dogfen gyngor: drafftio dwyieithog, cyfieithu a defnyddio’r Gymraeg wyneb yn wyneb.
Nod y ddogfen gyngor hon yw cynorthwyo sefydliadau i wneud defnydd effeithiol o wasanaethau cyfieithu o bob math er mwyn hwyluso cynnig gwasanaethau dwyieithog o’r ansawdd uchaf.
Technoleg, gwefannau a meddalwedd: ystyried y Gymraeg.
Dogfen sy'n rhoi esboniad trylwyr o ystyriaethau yn ymwneud â'r Gymraeg a thechnoleg gwybodaeth - gwefannau, meddalwedd, e-bost, cyfryngau cymdeithasol ac apiau.
Cymorth i sefydliadau ar sut i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Mae'r ddogfen yn cynnwys cyngor ar ystyried y Gymraeg wrth ddatblygu'r gweithlu, hysbysebu swyddi, a gofynion ieithyddol o fewn y broses recriwtio.