Y broses osod

Mae proses statudol ar gyfer dod â sefydliad o dan ddyletswydd i weithredu safonau’r Gymraeg. Yn dilyn gwaith ymchwil ac ymgynghori bydd y Comisiynydd yn ffurfio barn ynghylch beth sy’n rhesymol a chymesur.  

Wedi hynny, gwaith Llywodraeth Cymru yw datblygu safonau penodol mewn rheoliadau drafft. 

Gofynnir i'r Senedd gydsynio i'r rheoliadau. Bydd y Comisiynydd wedyn yn ymgynghori gyda sefydliad cyn rhoi hysbysiad cydymffurfio.  

Sgrin cyfrifiadur

Cynnal ymchwiliad safonau 

Ymchwiliad a gynhelir gyda sefydliad neu grŵp o sefydliadau yw ymchwiliad safonau. Mae'r Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad, ac wedyn yn cyflwyno ei gasgliadau i Weinidogion Cymru.  

Dyma’r adroddiadau ymchwiliadau safonau sydd wedi eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Senedd Cymru

Gwneud safonau 

Gweinidogion Cymru sy’n paratoi rheoliadau safonau’r Gymraeg.  

Yn ddiweddar, maen nhw wedi ymgynghori ar reoliadau drafft ar gyfer y canlynol: 

Mae’n rhaid i reoliadau gael eu pasio gan y Senedd cyn i'r Comisiynydd allu gosod safonau ar y sefydliadau hyn. 

Llun o'r siambr

Senedd Cymru sy’n penderfynu un ai i gytuno ar neu wrthod y rheoliadau. Mae rheoliadau yn nodi: 

  • Ar ba sefydliadau y gall Comisiynydd roi safonau;  
  • Pa safonau y mae modd eu gosod ar y sefydliadau hynny. 

Cafodd Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 3) 2016 eu gwrthod, eu hail gyflwyno, ac yna eu cymeradwyo fel Rheoliadau Rhif 6 ar 31 Ionawr, 2017.

Gosod safonau

Y Comisiynydd sy'n gosod safonau ar sefydliadau. Mae’n gwneud hyn trwy rhoi ‘hysbysiad cydymffurfio’ iddynt. Mae’n ddogfen gyfreithiol sy'n rhestru’r safonau y mae’n ofynnol i sefydliadau gydymffurfio a hwy. Mae’r Comisiynydd yn ymgynghori â phob sefydliad cyn rhoi hysbysiad cydymffurfio i sefydliad. 

Gorfodi safonau

Y cam statudol olaf yw sicrhau y cedwir at ofynion hysbysiad cydymffurfio. Gwneir hyn drwy orfodi safonau.  

Block background image

Hysbysiadau cydymffurfio

Hysbysiadau cydymffurfio