Cyfieithu
Mae safonau’r Gymraeg yn golygu bod dyletswydd ar lawer o sefydliadau yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau, gohebiaeth, cyfarfodydd a dogfennau o bob math yn ddwyieithog.
Gallwn gynnig cyngor i sefydliadau am gyfieithu a chyfieithu ar y pryd er mwyn iddynt wneud y defnydd gorau o’r gwasanaethau sydd ar gael.
Ble alla’ i ddod o hyd i gyfieithydd?
Chwilio am gyfieithydd proffesiynol? Ewch i wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Gall cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru fanteisio ar fframwaith gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y fframwaith ar wefan .
Cynnal cyfarfodydd fideo dwyieithog
Paratowyd yr atodiad hwn er mwyn cynnig cyngor brys i sefydliadau yn ystod argyfwng y Coronafeirws. Bwriad y nodyn cyngor yw rhoi arweiniad ymarferol ar sut y gellid parhau i gynnig gwasanaethau dwyieithog o safon gan ddefnyddio offer fideo gynadledda.
Dogfen gyngor: Drafftio dwyieithog, cyfieithu a defnyddio’r Gymraeg wyneb yn wyneb
Nod y ddogfen gyngor hon yw cynorthwyo sefydliadau i wneud defnydd arloesol, effeithiol a chyfrifol o wasanaethau cyfieithu o bob math er mwyn gallu cynnig gwasanaethau dwyieithog o’r ansawdd uchaf. Mae’r ddogfen yn rhoi sylw penodol i ofynion y safonau a’r datblygiadau technolegol diweddar sy’n gallu cynorthwyo’r broses gyfieithu. Mae wedi ei rhannu’n dair gan fynd i’r afael â’r tri phrif ddull o gynnig gwasanaethau dwyieithog i’r cyhoedd.