Menyw yn gweithio yn y swyddfa gyda chlustffonau a sgrin cyfrifiadur

Bu’r Comisiynydd yn cymryd rhan yng Nghynhadledd y Wales HR Network ar 7 Chwefor 2023. Cynhaliwyd sesiwn oedd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd ystyried y Gymraeg wrth recriwtio ac yn cyflwyno arferion da ar sail ei ddogfen gyngor ar recriwtio i helpu sefydliadau i sicrhau bod eu trefniadau recriwtio’n eu galluogi i gael gweithlu â’r sgiliau Cymraeg angenrheidiol.  

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae angen llawer iawn mwy o bobol sydd â sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Yn ei Adroddiad Sicrwydd diweddaraf, Y Gymraeg fel ffordd o weithio, nododd y Comisiynydd ei bod am weld chwyldro i greu gweithlu Cymraeg. Mae safonau’r Gymraeg a’r dyletswyddau sy’n deillio ohonynt yn creu galw cynyddol am wasanaethau Cymraeg ac er mwyn galluogi sefydliadau i lwyddo yn llawn i wneud hynny, mae’n greiddiol eu bod yn cynyddu eu capasiti i weithredu yn y Gymraeg. Dim ond drwy wneud hynny y gallwn weld Cymru lle all pobol ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd a chyrraedd nod Llywodraeth Cymru o weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  

Y cwestiwn mawr ydi sut mae modd cyflawni hynny? Mae mwy nag un ffordd o gynyddu capasiti sefydliadau o ran sgiliau Cymraeg eu gweithlu ond y dull mwyaf cyflym a dibynadwy o wneud hynny yw drwy recriwtio staff newydd sydd â’r sgiliau Cymraeg angenrheidiol. Rydym am weld sefydliadau’n manteisio ar bob cyfle i sicrhau bod gan y sefydliad staff sydd yn medru siarad a defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Mae’r newidiadau sydd wedi dod yn sgil y pandemig yn cynnig nifer o gyfleoedd newydd nad oedd yn bodoli yn y byd o’r blaen, er enghraifft, mwy o hyblygrwydd o ran lleoliad y swydd yn rhoi mynediad i gylch ehangach o sgiliau Cymraeg nag o’r blaen. Ond gyda hynny wrth gwrs, fe ddaw ei heriau ei hun wrth i’r pwll swyddi ar gyfer y rheiny sydd â’r sgiliau ehangu. 

Felly, gweledigaeth y Comisiynydd ar gyfer y dyfodol yw gweld mwy o bobl sydd â sgiliau yn y Gymraeg yn y gweithle. Mae gweld cynnydd yn bwysig er mwyn ffyniant y Gymraeg yn fwy cyffredinol. Yn y pen draw, polisïau sefydliadau heddiw a’r ffordd rydym yn gweithredu nawr fydd yn creu gweithle yfory ac felly, os ydym am weld y Gymraeg yn ffynnu yn y gweithle hwnnw, mae’n hollbwysig bod sefydliadau yn edych ar eu prosesau ac yn rhoi trefniadau mewn lle heddiw i weithredu hynny.