Geirfa Termau Safonol
Cynllun Iaith Gymraeg – dogfen statudol y mae’n rhaid i rai sefydliadau eu llunio yn nodi ymrwymiadau wrth ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg i’r cyhoedd yng Nghymru yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Safonau’r Gymraeg – cyfres o reolau a grëwyd gan Weinidogion Cymru sydd yn gosod dyletswydd statudol ar sefydliadau cyhoeddus i ddarparu gwasanaeth neu i ymddwyn mewn ffordd benodol wrth arfer eu swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n rhaid i sefydliadau gydymffurfio â’r safonau hynny sydd wedi eu gosod yn eu hysbysiad cydymffurfio nhw gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Hysbysiad cydymffurfio – y ddogfen a roddir i sefydliad yn nodi’r safonau y mae’n rhaid iddyn nhw gydymffurfio â nhw.
Ymchwiliad statudol – pan fo’r Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad i gŵyn am fethiant i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg.
Hysbysiad tystiolaeth – hysbysiad a roddir i sefydliad sydd yn sail i ymchwiliad yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ddarparu tystiolaeth i’r Comisiynydd at bwrpas yr ymchwiliad.
Cylch gorchwyl – dogfen sydd yn darparu amlinelliad o’r gŵyn a hyd a lled yr ymchwiliad gan gynnwys y safonau y bydd y Comisiynydd yn eu hystyried fel rhan o’r ymchwiliad.
Hysbysiad penderfynu – hysbysiad a roddir i sefydliad yn dilyn cynnal ymchwiliad yn cyflwyno dyfarniad y Comisiynydd ynglŷn â p’un a ydy sefydliad wedi methu cydymffurfio gyda safon neu beidio. Bydd yr hysbysiad penderfynu hefyd yn cynnwys manylion unrhyw weithredu pellach y bydd y Comisiynydd yn bwriadu ei wneud yn sgil ei ddyfarniad.