Cynllun Strategol

Graffeg pobl ny gafael llaw

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn sefydliad annibynnol a sefydlwyd gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r dudalen hon yn egluro cynllun strategol corfforaethol y Comisiynydd am gyfnod o dair blynedd o 2022 i 2025.

Mae’r cynllun hwn yn mynegi gweledigaeth
uchelgeisiol a hir dymor swyddfa’r Comisiynydd ac yn cynnwys yr amcanion strategol a’r blaenoriaethau a fydd yn cyfrannu tuag at y weledigaeth honno. Mae hefyd yn egluro ein gwerthoedd corfforaethol a sut byddwn yn rhoi’r strategaeth ar waith ac yn
adrodd ar ganlyniadau.

Rydym wedi ymrwymo i gyflawni’r blaenoriaethau yn y cynllun hwn a byddwn yn mesur cynnydd yn rheolaidd ac yn adolygu cyrhaeddiad drwy ein hadroddiad blynyddol. Caiff cyflawniad y strategaeth ei adolygu yn ystod y flwyddyn olaf wrth i ni ddechrau paratoi ar gyfer y cynllun strategol nesaf. Fel rhan o hynny byddwn yn ymgysylltu gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid wrth ddatblygu blaenoriaethau ac amcanion y dyfodol.

Graffeg eiconau helpu

Ein Gweledigaeth

 

Mae gan y Comisiynydd weledigaeth uchelgeisiol, tymor hir i sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio’r Gymraeg ymhob agwedd o’u bywyd ac ymhob rhan o Gymru. Ein gweledigaeth yw: Cymru lle gall pobl fyw eu bywyd yn Gymraeg.

Ein Gwerthoedd

Mae parchu pawb y byddwn yn gweithio â hwy yn ganolog i bopeth a wnawn.

Mae bod yn agored ac ymddiried yn ein gilydd yn sylfaen i’r diwylliant rydym yn ei arddel yn y gweithle.

Rydym yn ymdrin â phob agwedd o’n gwaith gyda thegwch, gonestrwydd a chysondeb.

Mae cydweithio gydag eraill mewn ffordd briodol a blaengar yn bwysig i ni.

Amcanion Strategol

Graffeg gafael llaw

Gweithredu a galluogi

Mae cyflawni amcanion strategol y Comisiynydd yn ddibynnol ar weithredu a gweinyddu effeithiol. Rhaid sicrhau safon uchel o reolaeth ariannol, fframwaith lywodraethu briodol a diwylliant corfforaethol sy’n cefnogi lles a datblygiad y gweithlu. Mae cyfathrebu gwybodaeth a hyrwyddo pob elfen o waith y Comisiynydd hefyd yn greiddiol i gyflawniad ein hamcanion. Er mwyn cefnogi gwaith y Comisiynydd a’r cynlluniau sydd gennym, byddwn yn rhoi pwyslais ar y themâu canlynol:

Graffeg pobl yn cymdeithasu

Adrodd ac atebolrwydd

Caiff y cynllun strategol hwn ei roi ar waith drwy gynlluniau gweithredol blynyddol a fydd yn cynnwys prosiectau a gweithgareddau penodol a fydd yn cyfrannu tuag at ein hamcanion strategol a’n blaenoriaethau tair blynedd.

Mae gennym gyfres o fesuryddion a fydd yn ein galluogi i fesur ac adrodd ar gyflawniad y cynllun hwn ac adolygu ei lwyddiant ar ddiwedd y tair blynedd. Bydd y tîm rheoli yn arwain y gwaith o graffu ar weithrediad y cynllun ac yn ei adolygu’n barhaus. Byddwn yn sicrhau bod cyswllt clir ac amlwg rhwng ein cynllun strategol a’n cynllun gweithredol a bydd ein hamcanion strategol yn cael eu hystyried wrth bennu cyllidebau blynyddol.

Byddwn yn adrodd ar ein gweithgareddau a’n gwariant drwy adroddiad blynyddol statudol a chyfrifon blynyddol a fydd wedi eu harchwilio gan Archwilio Cymru. Caiff yr adroddiad a’r cyfrifon eu cyhoeddi ar wefan y Comisiynydd a’u gosod gerbron Senedd Cymru.