Mae gan y Comisiynydd hawl i gychwyn neu ymyrryd mewn achosion cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Mae hefyd yn gallu darparu cymorth cyfreithiol i unigolyn.
Mae'r Comisiynydd wedi llunio fframwaith yn esbonio pryd y bydd yn barod i gychwyn achos neu ymyrryd mewn achos cyfreithiol.
Bydd y Comisiynydd yn defnyddio’r pŵer hwn os bydd o’r farn bod mater yn un strategol bwysig i hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg; lle nad oes dewis arall o gyrraedd yr un nod ac os yw’r achos yn un o fudd cyhoeddus amlwg.
Mae’r fframwaith hefyd yn egluro sut fydd y Comisiynydd yn defnyddio’i bwerau.
Os ydych am i’r Comisiynydd ymyrryd neu roi cymorth cyfreithiol i chi, cwblhewch y ffurflen isod gan gynnwys cymaint o wybodaeth berthnasol â phosib.
Gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen, ai hafon at post@cyg-wlc.cymru.
Mae pob cais yn cael ei drin yn gyfrinachol.
Cyn cymryd unrhyw gamau ffurfiol neu wneud penderfyniad terfynol mewn perthynas ag achos mae’n bosib y bydd y Comisiynydd yn ceisio cyngor priodol ac yn rhoi sylw i’r cyngor hwnnw. Mae’n bosib felly y bydd angen rhannu manylion yr achos hwn â thrydydd parti.
Mae Hysbysiad Preifatrwydd y Comisiynydd yn rhoi gwybodaeth am beth i’w ddisgwyl pan fydd yn casglu, defnyddio, datgelu, trosglwyddo a chadw eich data personol. Mae copi o’r hysbysiad preifatrwydd i’w weld yma.