Cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith, Cymru 2024

Logo dathlu 10 mlynedd o IALC

Cofleidia dy iaith: Cynyddu defnydd o ieithoedd lleiafrifol a swyddogol

 

Cynhelir wythfed cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yng Nghaerdydd ar 11 Mehefin eleni. Bydd y gynhadledd yn gyfle i archwilio effeithiau trawsnewidiol deddfu o blaid ieithoedd yng Nghymru a thu hwnt. Yn ogystal â sesiynau ymarferol yn rhannu profiadau sefydliadau o Gymru, bydd cyfraniadau gan y prif siaradwyr isod:

  • Raymond Théberge, Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada
  • Yr Athro Fernand de Varennes, Cyn-Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar hawliau lleiafrifoedd
  • Yr Athro Rob Dunbar, Cynrychiolydd y DU ar Bwyllgor Arbenigwyr Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop

Cefnogir y digwyddiad gan Lywodraeth Cymru.

Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, yw cadeirydd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith ar hyn o bryd. Cewch ragor o wybodaeth am y Gymdeithas ar ei gwefan.

Cynhaliwyd y gynhadledd yng Nghymru ddiwethaf yn 2017.

Cynhadledd IALC 2017

Lansiad Swyddogol y Gynhadledd

 

Cynhelir digwyddiad i lansio'r gynhadledd ar 10 Mehefin ym Mae Caerdydd. Bydd y lansiad yn gyfle i ddathlu dengmlwyddiant y Gymdeithas yng nghwmni:

  • Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg a Chadeirydd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith
  • Delyth Jewell AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol Senedd Cymru
  • Yr Athro Fernand de Varennes, Cyn-Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar hawliau lleiafrifoedd

Bydd y Prifardd Mererid Hopwood yn darllen cerdd gomisiwn arbennig i nodi’r achlysur a bydd adloniant hefyd gan y cerddor a’r cyfansoddwr Gwilym Bowen Rhys a chôr Ysgol Hamadryad.

Noder mai trwy wahoddiad yn unig y gellir mynychu'r lansiad.

Noddwyd y lansiad gan Delyth Jewell AS.

Diolch arbennig i Darwin Gray am eu nawdd hael.