Adroddiadau sicrwydd

Poster Iaith Gwaith ar ddesg

Beth yw  adroddiad sicrwydd?

Bob blwyddyn, mae'r Comisiynydd yn cyhoeddi adroddiad sicrwydd.

Mae’r adroddiad yn rhoi barn y Comisiynydd ar y ffordd y mae sefydliadau’n gweithredu ac yn rhoi sylw i brofiadau defnyddwyr y gwasanaethau Cymraeg.  

Mae’r Comisiynydd eisiau i sefydliadau ddefnyddio’r adroddiad i wella sut maent yn gweithio. Mae’n  annog sefydliadau i gymharu eu perfformiad eu hunain yn erbyn y tueddiadau sy’n cael eu nodi yn yr adroddiad. 

Merch yn eistedd tu ol i gownter

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n cynnwys: 

  • gwaith monitro: arolygon profiad defnyddwyr, gwirio adroddiadau blynyddol a chofnodion, ac astudiaethau thematig. 
  • ymgysylltu â defnyddwyr: cynnal digwyddiadau amrywiol ar hyd a lled Cymru er mwyn clywed am brofiadau pobl. 
  • ymwneud â sefydliadau: cynnal cyfarfodydd a  gweithdai.