Mae’r safonau llunio polisi yn gofyn i sefydliadau ystyried effaith ei benderfyniadau polisi ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Wrth wneud hynny, mae’n rhaid i sefydliadau wneud ‘ymdrech gydwybodol’ [1]i ystyried yr effeithiau. Mae’r trothwy ar gyfer ‘ymdrech gydwybodol’ yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Mae’n debygol y bydd y gofynion yn uwch mewn ardal sensitif neu arwyddocaol o ran y Gymraeg, ac wrth i nifer a maint yr effaith gynyddu.
Mae’n rhaid i sefydliadau gadw cofnod o’r ystyriaeth maent yn eu rhoi. Nid oes rhaid rhestru pob un effaith posib, ond bydd ystyried ystod eang o effeithiau yn ei wneud yn fwy tebygol y bydd ‘ymdrech gydwybodol’ wedi ei wneud.
Dyma rai enghreifftiau o’r materion a’r effeithiau y gall sefydliadau eu hystyried wrth wneud eu penderfyniadau. Nid yw’n restr gynhwysfawr, ac maent yn ffactorau y gellir eu hystyried dim ond i’r graddau y maent yn berthnasol i’r penderfyniad dan sylw. Bydd y ffactorau perthnasol yn amrywio fesul achos.
- Nifer y siaradwyr Cymraeg
- yn gyffredinol
- mewn un ardal ddaearyddol
- mewn carfan benodol (e.e. plant, pobl ifanc, oedolion)
- mewn sector neu grŵp penodol (e.e. aelodau o glybiau neu gymdeithasau)
- Trosglwyddiant y Gymraeg
- yn y cartref rhwng rhiant/gofalwr a phlentyn
- mewn addysg wrth i ddisgybl symud o un cyfnod addysg i un arall (e.e. wrth symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd)
- Y Gymraeg yn y gweithle
- cyfleoedd anffurfiol a chymdeithasol
- cyfathrebu mewnol
- strwythur timoedd / adrannau
- technoleg ac adnoddau (e.e. meddalwedd prawf ddarllen, rhyngwyneb dyfeisiadau)
- ymwybyddiaeth iaith ymysg staff
- Y defnydd a wneir o wasanaethau Cymraeg
- y gallu i roi gwasanaeth Cymraeg yn ddiofyn
- y gallu i wneud cynnig rhagweithiol i ddefnyddio’r Gymraeg
- rhoi gwybod am wasanaethau Cymraeg
- amgylchedd rhoi gwasanaeth
- gofynion Safonau’r Gymraeg
- Defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg
- ymysg plant, pobl ifanc ac oedolion
- yn y gweithle
- tu allan i’r gwaith
- digwyddiadau a gweithgareddau a drefnwyd (e.e. digwyddiad cymunedol, dosbarth hamdden, cyfarfod crefyddol)
- cyfryngau digidol
- Pa mor weladwy yw’r Gymraeg
- enwau lleoedd (e.e. trefi, pentrefi, strydoedd, datblygiadau tai newydd)
- arwyddion gwybodaeth mewnol ac allanol sefydliad
- arwyddion busnesau a sefydliadau preifat
- deunydd sy’n cael ei arddangos yn gyhoeddus
Is-adeiledd cymdeithasol, economaidd a diwylliannol cymunedau Cymraeg
- Strategaethau a pholisïau ar faterion megis y canlynol:
- addysg (e.e. Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg)
- cynllunio gwlad a thref (e.e. Cynllun Datblygu Lleol)
- defnydd tir
- datblygu a chynaliadwyedd cymunedol
- datblygu economaidd
- strategaethau Llywodraeth Cymru (e.e. Cymraeg 2050 – Miliwn o siaradwyr Cymraeg)
- deddfau a chyfreithiau eraill (e.e. Cod Trefniadaeth Ysgolion, TAN 20)
- Cyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg
- gofal plant
- addysg statudol
- addysg cyn ac ôl statudol
- gwersi Cymraeg i oedolion
- mynediad at feddalwedd / cyrsiau ar-lein
- Defnydd a wneir o’r Gymraeg yn y maes digidol a thechnolegol
- cyfryngau cymdeithasol
- lleisiau synthetig
- meddalwedd trawsgrifio ac is-deitlo
- deallusrwydd artiffisial
- Cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
- addysg feithrin
- addysg statudol
- addysg bellach ac uwch
- dysgu’n seiliedig ar waith
- cludiant i leoliadau addysg
- hwylustod mynediad at addysg Gymraeg
- Cynllunio ieithyddol
- cynaliadwyedd mewn ardaloedd lle ceir dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg
- hyrwyddo caffael a defnydd iaith
- ffyniant y Gymraeg fel iaith teulu, cymuned neu’r gweithle
- tegwch cymdeithasol
- Ymdrechion i warchod a hyrwyddo’r Gymraeg
- gweithgareddau Mentrau Iaith
- gweithgareddau mentrau cymunedol
- ymgyrchoedd hybu a hyrwyddo
- gofynion ieithyddol statudol
- grantiau
[1] Penderfyniad Tribiwnlys y Gymraeg yn achos Cyngor Castell-nedd Port Talbot v Comisiynydd y Gymraeg