Blog Cynnig Cymraeg NSPCC

Yr NSPCC yw prif elusen plant y DU. Maent wedi bod yn cefnogi plant ers dros 130 o flynyddoedd. Mae sicrhau bod cefnogaeth yn y Gymraeg ar gael i blant Cymru yn bwysig i’r NSPCC.

Darllenwch am eu Cynnig Cymraeg.

  • Pam fod defnyddio'r Gymraeg yn bwysig i chi fel sefydliad?

Mae sicrhau bod ein hadnoddau a’n gwasanaethau ar gael yn ddwyieithog yn golygu y gallwn gyrraedd holl blant a theuluoedd Cymru. Mae ‘Arhoswch yn ddiogel’ yn rhaglen sydd cael ei chyflwyno i blant oed cynradd gan dîm ysgolion yr NSPCC. Mae’r rhaglen yn rhannu negeseuon hanfodol ynghylch cam-drin a chadw'n ddiogel. Mae gan blant yr hawl i gael mynediad at y wybodaeth yma ac maent yn derbyn y gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf.. Heb adnoddau dwyieithog, byddem yn llai tebygol o allu cael mynediad i ysgolion cyfrwng Cymraeg, gan olygu y byddai carfan gyfan o blant yn colli allan ar y negeseuon holl bwysig hyn. Trwy ddarparu deunyddiau dwyieithog i rieni, rydym yn cefnogi teuluoedd i allu cael pob trafodaeth bwysig gyda’u plant yn eu hiaith ddewisol.

  • Beth yw'r fantais i chi o dderbyn y Cynnig Cymraeg?

Mae’r Cynnig Cymraeg yn dangos bod yr NSPCC wedi ymrwymo i’r Gymraeg ac wedi ymrwymo i gyrraedd holl blant a theuluoedd Cymru. Mae’n dangos ein bod yn gwerthfawrogi ac yn cofleidio’r gwahaniaethau ieithyddol a diwylliannol yng Nghymru. Mae’n dangos ein bod ni’n berthnasol, yn genedlaethol ac yn lleol.

  • A fyddech chi'n annog eraill i wneud cais am y Cynnig Cymraeg, a pham?

Mae cael amlinelliad clir o’r hyn rydym yn ei gynnig yn y Gymraeg fel sefydliad yn dangos yr ymrwymiad i’r iaith ac i blant a theuluoedd yng Nghymru. Mae'n codi ymwybyddiaeth mewn mannau eraill yn y sefydliad a thu hwnt. Mae’n darparu cefnogaeth a chyd-destun i unrhyw ofynion sydd gennym ynglŷn â dwyieithrwydd.

Gwirfoddolwr yr NSPCC yn sefyll mewn ystafell ddosbarth

Dyma Meic. Mae Meic yn Wirfoddolwr Gwasanaeth Ysgolion ac yn cyflwyno'r rhaglen ‘Cofia ddweud, Arhoswch yn Ddiogel’ i ysgolion cynradd Gwynedd a Môn. Heb adnoddau Cymraeg na gwirfoddolwyr sydd yn siarad Cymraeg, ni fyddem yn gallu cyrraedd y mwyafrif o ysgolion yr ardal hon a nifer enfawr o ysgolion ledled Cymru. Trwy rannu’r negeseuon holl bwysig gyda phlant yn eu hiaith gyntaf, mae gwirfoddolwyr fel Meic yn sicrhau bod holl blant Cymru yn derbyn y negeseuon hanfodol hyn.

Block background image

Darganfod mwy am y Cynnig Cymraeg

Cynnig Cymraeg