Blog Cynnig Cymraeg Esgobaeth Bangor

Mae Y Parchedicaf Andrew John, Archesgob Cymru, Esgob Bangor, yn ymfalchïo yn y Gymraeg a Chynnig Cymraeg Esgobaeth Bangor. 

Y Parchedicaf Andrew John, Archesgob Cymru, Esgob Bangor

Darllenwch am eu profiad:

Mae bod yn rhan o’r cynllun a derbyn y Cynnig Cymraeg yn eithriadol o bwysig i ni yn Esgobaeth Bangor. Mae defnyddio’r Gymraeg yn rhan naturiol o’n bywyd bob dydd. Mae’r cynllun wedi helpu i  sicrhau fod pawb yn gallu cyfathrebu gyda ni ac addoli gyda ni yn eu dewis iaith , ac mae hyn yn ofnadwy o bwysig i ni.

Rydym wastad wedi defnyddio’r Gymraeg yn yr Esgobaeth ond mae’r Cynllun datblygu ar Cynnig Cymraeg wedi ein galluogi ni i ffurfioli hynny a chael y dystiolaeth bendant gan roi mwy o statws eto i’r iaith ymhob sefyllfa. Mae hefyd yn dangos ein ymrwymiad ni yma ym Mangor tuag at yr iaith Gymraeg.

Byddwn yn annog unrhyw sefydliad i geisio am y Cynnig Cymraeg, mae’r broses wedi bod yn un hwylus gyda llawer o gefnogaeth barod ar gael gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Mae cwblhau’r Cynnig Cymraeg wedi gwneud i ni sylweddoli ein gwendidau a’n cryfderau ac hefyd mae wedi pwysleisio’r pethau sydd yn bwysig i’r gymuned a'n cynulleidfa Gymraeg. Mae’r Cynnig Cymraeg wedi rhoi hyder gwirioneddol i ni wrth ddweud wrth bobl ein bod yma i wasanaethu holl drigolion yr Esgobaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Block background image

Darganfod mwy am y Cynnig Cymraeg

Cynnig Cymraeg