Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi mabwysiadu cynllun cyhoeddi enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth, sy'n nodi'r saith dosbarth o wybodaeth a ddylai gael eu cyhoeddi gan gyrff cyhoeddus.
Sut gallwch chi gael gafael ar y wybodaeth
Mae'r tabl isod yn nodi'r saith dosbarth o wybodaeth sydd ar gael y mae Comisiynydd y Gymraeg yn eu cyhoeddi ym mhob dosbarth, ble i ddod o hyd i'r wybodaeth a sut i gael gafael arni. Bydd llawer o’r wybodaeth sydd ar gael o dan y cynllun ar gael ar ein gwefan ac mae modd ei llwytho i lawr am ddim. Os nad yw’r wybodaeth ar gael ar ein gwefan, mae modd i ni ei darparu ar gais dim ond i chi gysylltu â ni.
Os hoffech wneud cais am wybodaeth nad yw ar gael drwy ein cynllun cyhoeddi, gallwch wneud cais Rhyddid Gwybodaeth. Noder ei bod yn bosib na allwn ddarparu gwybodaeth os bydd wedi ei diogelu o dan y Ddeddf Diogelu Data neu drwy eithriad i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, a gall dogfennau gael eu golygu yn unol â hynny.
Ffî
Ni chodir tâl am wybodaeth sydd wedi ei chyhoeddi ar ein gwefan. Os oes angen copi papur o'r wybodaeth ar ein gwefan arnoch, cysylltwch â ni.