Mae eu gwasanaethau, fel y Llinell Gymorth a gwasanaethau Cwnsela ar gael yn Gymraeg.
Mae gwybodaeth am eu gwasanethau cymorth, gan gynnwys taflenni gwybodaeth a phecynnau croeso, ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae deunyddiau eraill, fel deunydd codi arian ac ymgyrchoedd, ar gael yn ddwyieithog lle bo’n bosib.
Maent yn croesawu cyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg. Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael drwy ein Llinell Gymorth, byddent yn trefnu bod rhywun yn eich ffonio yn ôl cyn gynted â phosib. Os ydych yn ysgrifennu atynt yn Gymraeg, byddent yn ymateb yn Gymraeg.
Mae'r tudalennau allweddol ar eu gwefan ar gael yn ddwyieithog, gan gynnwys gwybodaeth am ganser, eu gwasanaethau, a sut i gysylltu â nhw. Mae'r ieithoedd yn ymddangos ar wahân, ac mae modd i'r defnyddiwr symud o un iaith i'r llall ar unrhyw adeg trwy ddefnyddio botwm iaith amlwg, ar frig y dudalen.
Maent yn falch bod ganddynt nifer o staff sy'n siarad Cymraeg. Maenr yn eu hannog i amlygu eu sgiliau i'r cyhoedd gydag adnoddau Iaith Gwaith gan gynnwys bathodynnau, cortynnau gwddf, cardiau busnes.
Mae ganddynt siaradwyr Cymraeg ar gyfer cyfweliadau’r wasg a chyfryngau.
Iaith swyddogol y cwmni yw Cymraeg a mae pob gohebiaeth yn digwydd yn y Gymraeg gyntaf.
Gwefan dwyieithog.
Nid oes yr un cwmni arall yn teithio mor eang gan ymweld ag amrywiaeth o gymunedau o’r Gogledd i’r De, ac o’r Dwyrain i’r Gorllewin, gan gynnwys ardaloedd diarffordd a gwledig, er mwyn perfformio yn Gymraeg.
Sicrhau fod pawb, ble bynnag y bônt, yn cael cyfle i brofi digwyddiadau celfyddydol drwy’r Gymraeg.
Parhau i gynnig gwasanaeth unigryw i gynulleidfaoedd ar lawr gwlad drwy ddiwallu’r angen am weithgaredd theatrig celfyddydol safonol, proffesiynol wrth galon cymunedau’r genedl, a hynny, yn bennaf, yn yr iaith Gymraeg.
Darparu cynyrchiadau iaith Gymraeg o safon uchel dros Gymru a thu hwnt.
Darparu gweithdai ymgysylltiol yn Gymraeg i grwpiau ysgol a chymunedau.
Cefnogi siaradwyr a dysgwyr Cymraeg o fewn y diwydiant theatr ac yn cynnig y cyfle i weithio yn y Gymraeg.
Darparu adnoddau dwyieithog i ysgolion i gyd-fynd gyda’n cynyrchiadau i ysgolion.
Anelu i gynyddu'r nifer o gynyrchiadau iaith Gymraeg ac yn gweithio gyda chyd-gynhyrchwyr yn y cymoedd i ymgysylltu gyda’u siaradwyr a dysgwyr Cymraeg lleol.
Gallwch ddysgu am eu gwaith ar ei gwefan neu ar y cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg.