Caiff eu mêl ei labelu’n a’i farchnata’n ddwyieithog i gyfleu ymdeimlad o Gymreictod, nid yn unig yn eu defnydd o'r iaith ond hefyd yn y tirwedd y mae cyfranogwyr yn rhan ohoni yn ystod eu digwyddiadau a'r cysylltiad â'r tirwedd a'r amgylchedd y maent yn mynd â nhw i ffwrdd â nhw gyda'u mêl.
Caiff eu cyrsiau hyfforddi a’u profiadau cadw gwenyn eu teilwra yn bwrpasol i’w cwsmeriaid, felly byddant yn cynnig ey gwasanaethau yn uniaith Gymraeg neu yn ddwyieithog fel bo’r galw. Maent yn awyddus i ddenu rhagor o gwsmeriaid Cymraeg a chyflwyno rhagor o’u digwyddiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Maent yn ymweld a chynnig sgyrsiau ar y thema o gadw gwenyn i gymdeithasau a mudiadau gwirfoddol e.e. Clwb Gwawr, WI, Round Table. Maent yn eiddgar i gyflwyno’r gwasanaeth yma drwy gyfrwng y Gymraeg yn fwy aml.
Trwy eu busnes maent wedi creu gofod Cymraeg newydd lle mae modd dysgu, gweithio a chymdeithasu’n naturiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Maent am ddatblygu’r gofod Cymraeg yma ymhellach drwy gyflwyno gweithdai ar y thema o gadw gwenyn drwy gyfrwng y Gymraeg i ysgolion a mudiadau a chynnig gweithdai i bobl a theuluoedd ifanc (<35 oed) i enghreifftio sut gall dechrau busnes bach gwledig sicrhau bywoliaeth yn eu hardal gynhenid.
Maent wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ymhlith eu cwsmeriaid di-Gymraeg drwy sicrhau bod eu posteri a’u harwyddion yn eu lle gwaith yn ddwyieithog; eu enw masnachu a’u logo yn ddwyieithog; a’u presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog.