Sefydliadau sydd â'r Cynnig Cymraeg
Theatr na nOg
- Darparu cynyrchiadau iaith Gymraeg o safon uchel dros Gymru a thu hwnt.
- Darparu gweithdai ymgysylltiol yn Gymraeg i grwpiau ysgol a chymunedau.
- Cefnogi siaradwyr a dysgwyr Cymraeg o fewn y diwydiant theatr ac yn cynnig y cyfle i weithio yn y Gymraeg.
- Darparu adnoddau dwyieithog i ysgolion i gyd-fynd gyda’n cynyrchiadau i ysgolion.
- Anelu i gynyddu'r nifer o gynyrchiadau iaith Gymraeg ac yn gweithio gyda chyd-gynhyrchwyr yn y cymoedd i ymgysylltu gyda’u siaradwyr a dysgwyr Cymraeg lleol.
- Gallwch ddysgu am eu gwaith ar ei gwefan neu ar y cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg.
Tir Coed
- Maent yn darparu cyrsiau ac adnoddau cefnogol yn Gymraeg. Lle nad oes tiwtoriaid sy’n siarad Cymraeg ar gael, maent yn cynnig gwasanaeth cyfieithu.
- Gallwch gysylltu â nhw yn Gymraeg dros y ffôn, ar e-bost neu’r cyfryngau cymdeithasol.
- Gallwch gyfathrebu yn Gymraeg â'u staff a gwirfoddolwyr sy’n gwisgo’r bathodyn ‘Iaith Gwaith’ oren.
- Maent yn annog eu staff i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg a rhoi’r cyfle iddynt ddysgu.
- Mae eu gwefan yn hollol ddwyieithog.
Tir Dewi
-
Mae eu llinell ffôn ar gael yn Gymraeg – mae’r galwr yn dewis o fwydlen, ac mae’r alwad yn cael ei hateb yn eu dewis iaith.
-
Mae eu cefnogaeth ar y fferm yn cael ei ddarparu yn Gymraeg neu’n Saesneg yn ôl gofyn y defnyddiwr. Mae’r Gymraeg ar gael ym mhob ardal.
-
Mae pob darn o ddeunydd marchnata ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg
-
Maent yn postio ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog.
-
Maent yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg dros e-bost neu drwy’r post.
Triathlon Cymru
- Cyfres Triathlon Cymru ar S4C– Mae’r gyfres yn rhoi llwyfan i’r gamp i siaradwyr Cymraeg. Mae’n haelodau sy'n siarad Cymraeg yn llysgenhadon i'r Gymraeg yn Triathlon felly yn falch o ddweud wrth S4C pwy yw'r siaradwyr Cymraeg ar gyfer ffilmio.
- Mae’r Gymraeg yn amlwg ar sianeli cyfryngau cymdeithasol ac yn gynyddol ar ein gwefan - os ydych am ymateb yn Gymraeg i'n negeseuon, byddwn yn eich ateb yn Gymraeg.
- Mae ganddynt swyddogion i fod yn bwynt cyswllt i siaradwyr Cymraeg os ydynt am gyfathrebu â Triathlon Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg. Gallwch eu hadnabod gyda’r bathodyn Iaith Gwaith ar ein gwefan ac mewn digwyddiadau. Gallwch adnabod eu Swyddogion Technegol sy’n siarad Cymraeg mewn digwyddiadau gyda nwyddau Iaith Gwaith.
- Gallwch ddarllen ein Adroddiad Blynyddol yn ddwyieithog.
- Mae’r cylchlythyr wythnosol yn ddwyieithog – y Gymraeg a’r Saesneg ochr yn ochr gyda’r Gymraeg yn gyntaf.
TTC
- Mae TTC yn cynnig yr hawl i'r cyhoedd yng Nghymru ddewis pa iaith i'w defnyddio wrth ddelio â'r sefydliad.
- Maent yn cydnabod y gall aelodau o'r cyhoedd fynegi eu barn a'u hanghenion yn well yn eu dewis iaith.
- Maent yn cydnabod bod galluogi'r cyhoedd i ddefnyddio eu dewis iaith yn fater o arfer da, nid consesiwn ac y gallai gwrthod yr hawl iddynt ddefnyddio eu dewis iaith roi aelodau o'r cyhoedd o dan anfantais wirioneddol.
- Maent yn dangos parch at eu gweithlu i annog a hwyluso'r defnydd o'r iaith o'u dewis yn y gweithle.
- Maent yn dangos ymrwymiad i'r Gymraeg hefyd drwy eu Polisi Iaith.
TUC Cymru
Wrth gyfathrebu â TUC Cymru gallwch ddisgwyl:
- Gweld bod llawer o wefan TUC Cymru yn ddwyieithog
- Gallu siarad ag aelod o staff sy’n gwisgo’r bathodyn Iaith Gwaith yn Gymraeg
- Derbyn e-gylchlythyrau yn ddwyieithog
- Anfon e-bost neu lythyr yn y Gymraeg – ac yn ymateb yn yr un iaith
- Defnyddio’r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol ac yn ymateb i’ch sylwadau Cymraeg yn Gymraeg.
Ty Gobaith
- Maent yn gofyn i’ deuluoedd beth yw eu dewis iaith ac yn ymdrechu i roi nyrsys a gofalwyr sy’n siarad Cymraeg i’r teuluoedd sydd yn gofyn am hynny.
- Mae ganddynt wefan Cymraeg sydd ar gael gyda botwm dewis iaith.
- Mae ganddyn nhw nifer o staff gyda sgiliau Cymraeg ac maent yn annog staff i ddangos i’r cyhoedd pwy sy’n siarad Cymraeg gydag adnoddau Iaith Gwaith.
- Maent yn cyfathrebu'n Gymraeg gyda'u cefnogwyr – gallwch ofyn i dderbyn llythyrau diolch, cylchlythyrau, posteri, cyflwyniadau a chefnogaeth codi arian yn y Gymraeg.
- Mae pob aelod o staff yn ateb y ffôn yn ddwyieithog, ac os nad yw’r swyddog yn siarad Cymraeg, maent yn cynnig trosglwyddo’r alwad at siaradwr Cymraeg pan yn bosib.
Tŷ Cerdd
· Mynediad at lwybrau sy’n canolbwyntio ar y Gymraeg yn eu rhaglen Datblygu Cyfansoddwyr
· Mae’r holl wybodaeth am eu rhaglenni datblygu artistiaid ar gael yn Gymraeg yn ddiofyn
· Mynediad at opsiynau Cymraeg ar gyfer gwneud cais am raglenni artistiaid a grantiau’r Loteri yn ddiofyn
· Postiadau gwybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol yn y ddwy iaith
· Cylchlythyr ar gael yn Gymraeg – opsiwn i ddewis derbyn y cylchlythyr yn Gymraeg wrth gofrestru. Anfonir pob e-bost arall yn ddwyieithog
· Os ydych chi’n anfon e-bost atynt yn Gymraeg, byddent yn ymateb yn Gymraeg
UKROEd
- Mae UKROEd wedi ymrwymo’n gyfan gwbl i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ganddynt bolisi iaith Gymraeg a mae ganddynt hyrwyddwr iaith Gymraeg penodol i hwyluso’r cynnig.
- Mae pob un o saith cwrs UKROEd ar gael yn Gymraeg.
- Mae system archebu cyrsiau DORS+ yn gwbl ddwyieithog.
- Mae’r holl ddeunydd perthnasol ar wefan UKROEd yn gwbl ddwyieithog.
- Mae ganddynt uned cyfieithu.
- Maent yn ymateb i gyfathrebiadau yn Gymraeg.
Undeb Myfyrwyr Caerdydd
Mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu amrywiaeth o weithgareddau ac ymgyrchoedd yn Gymraeg, gan gynnwys:
- Swyddog etholedig llawn-amser sy’n gyfrifol am gynrychioli’r iaith Gymraeg.
- Fforwm penodol er mwyn i siaradwyr Cymraeg lleisio’u barn a rhannu eu hadborth gyda’r Brifysgol a’r Undeb.
- Digwyddiadau â ffocws Cymreig wedi’u trefnu i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’u diwylliant, gan gynnwys dathlu digwyddiadau megis yr Eisteddfod, Diwrnod Shwmae Su’mae, Diwrnod Santes Dwynwen, Dydd Gŵyl Dewi a Dydd Miwsig Cymru.
- Gall bob myfyriwr gymryd rhan lawn mewn fforymau democrataidd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Tu allan i ddigwyddiadau mae’r elfennau gohebiaeth a marchnata canlynol wedi’u darparu’n ddwyieithog:
- Mae gan bob myfyriwr yr hawl i anfon a derbyn gohebiaeth yn Gymraeg.
- Mae eu harwyddion a phrif bosteri yn yr adeilad yn ddwyieithog.
- Mae e-byst wedi’u hanfon at gyfran fawr o fyfyrwyr yn ddwyieithog ac maent yn cydnabod dewis iaith myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys e-byst hysbysebu allanol, blogiau a chylchlythyron.
- Mae ganddynt gyfrif X Cymraeg @undebmyfyrwyr. Mae pob cyfrif cymdeithasol arall @cardiffstudents yn cyfuno’r Gymraeg a’r Saesneg.
Undeb Rygbi Cymru
- Bydd eu prif gyhoeddiadau a’u datganiadau perthnasol i'r wasg yn ddwyieithog
- Bydd holl arwyddion newydd yr Undeb yn ddwyieithog
- Bydd cyhoeddiadau eu system sain, arwyddion y stadiwm, ac adloniant eu gemau yn hyrwyddo y Gymraeg a diwylliant Cymru
- Bydd yr iaith Gymraeg yn amlwg ar docynnau eu gemau, eu canllawiau i’r cefnogwyr a’u rhaglenni swyddogol
- Anogir defnydd o’r Gymraeg mewn cynadleddau i'r wasg a chyfweliadau
- Byddent yn annog eu noddwyr a’u partneriaid masnachol i hyrwyddo'r Gymraeg yn barchus. Byddent hefyd yn eu gwneud yn ymwybodol o’r cyfleoedd masnachol ychwanegol all ddod yn sgil defnyddio'r iaith.
- Bydd prif newyddion diweddaraf Undeb Rygbi Cymru yn ddwyieithog ar eu gwefan
- Bydd y Gymraeg yn amlwg ac yn ddealladwy ar eu cyfryngau
Bydd y cyhoedd yn gallu derbyn gwasanaeth prydlon yn Gymraeg neu’n Saesneg wrth ffonio neu ohebu gydag URC. - Bydd modd i aelodau gofrestru a derbyn gwybodaeth am gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n Saesneg
Bydd eu prif chwaraewyr yn annog y genhedlaeth nesaf i fod yn falch o’u Cymraeg ac i’w defnyddio hi - Fel un o brif sefydliadau Cymru – maent yn falch o dderbyn y cyfrifoldeb a’r fraint o hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru
UPROAR
- Mae'r holl wybodaeth am ensemble UPROAR ar gael ar eu gwefan ddwyieithog.
- Bydd eu deunydd hyrwyddo a chylchlythyrau wastad ar gael yn ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg.
- Maent yn rhannu cynnwys dwyieithog ar y cyfryngau cymdeithasol
- Mae eu cyfansoddwyr, eu cerddorion, eu staff a’n Hymddiriedolwyr llawrydd Cymraeg eu hiaith yn siarad am eu gwaith yn Gymraeg mewn cyfweliadau â’r wasg a’r radio ac mewn fideos hyrwyddo.
- Bydd bathodynnau Iaith Gwaith ar gael i'r cerddorion eu gwisgo, a byddant ar gael i siarad yn anffurfiol gyda chynulleidfaoedd a chydweithwyr yn Gymraeg.
- Bydd pob cyfle swydd yn ddwyieithog a byddent yn hysbysebu ar wefannau Cymraeg i annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg