Hwb Cymunedol sef gwasanaeth sy’n darparu cefnogaeth a chyngor i drigolion lleol sy’n wynebu amrywiaeth o heriau, yn enwedig heriau’n ymwneud â’r argyfwng costau byw. Byddwn yn darparu’r gefnogaeth yma’n ddwyieithog.
Mae pob gohebiaeth rhwng Yr Orsaf a mudiadau eraill/ cwsmeriaid sy’n cysylltu â ni yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg e.e. drwy ebost, dros y ffôn, ar y cyfryngau cymdeithasol, wyneb i wyneb.
Digwyddiadau- amryw o sesiynau a digwyddiadau gan gynnwys teithiau cerdded, sesiynau chwarae i blant, swper cymunedol, sesiynau garddio, sesiynau cymdeithasu i’r henoed ayyb. Mae eu digwyddiadau yn cael eu cynnal yn ddwyieithog.
Gwefan dwyieithog.
Trafnidiaeth Cymunedol sef cynllun sy’n cynnig trafnidiaeth i aelodau hŷn a bregus y gymuned gan ddefnyddio ein cerbydau trydan. Mae’r cynllun yn un dwyieithog
Mae bwydlenni’r caffi yn gwbl ddwyieithog, a gallwch archebu yn Gymraeg.