Pan yn gweithio neu chyfathrebu gyda WWF Cymru gallwch ddisgwyl -
- Bod sianeli cymdeithasol WWF Cymru yn gwbl ddwyieithog ac ymholiadau yn y Gymraeg yn cael eu hateb yn y Gymraeg.
- Bod adran WWF Cymru o’r wefan yn gwbl ddwyieithog.
- Bod aelod o staff sy’n siarad Cymraeg wastad ar gael i drafod a sgwrsio, ac y bydd bathodyn Iaith Gwaith neu Dysgu Cymraeg yn cael eu defnyddio mewn llofnod ebost.
- Bod yr holl gyfathrebiadau, cylchlythyron, hysbysebion swyddi neu ddeunyddiau marchnata a welwch gan WWF Cymru yn gwbl ddwyieithog.
- Bod pob aelod o staff yn derbyn cefnogaeth ac anogaeth i ddysgu Cymraeg.
- Bod WWF Cymru yn cydweithio’n agos â WWF-UK i sicrhau lle’n bosib bod cyfathrebiadau y DU i gefnogwyr sy’n berthnasol i Gymru yn ddwyieithog.