Mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu amrywiaeth o weithgareddau ac ymgyrchoedd yn Gymraeg, gan gynnwys:
- Swyddog etholedig llawn-amser sy’n gyfrifol am gynrychioli’r iaith Gymraeg.
- Fforwm penodol er mwyn i siaradwyr Cymraeg lleisio’u barn a rhannu eu hadborth gyda’r Brifysgol a’r Undeb.
- Digwyddiadau â ffocws Cymreig wedi’u trefnu i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’u diwylliant, gan gynnwys dathlu digwyddiadau megis yr Eisteddfod, Diwrnod Shwmae Su’mae, Diwrnod Santes Dwynwen, Dydd Gŵyl Dewi a Dydd Miwsig Cymru.
- Gall bob myfyriwr gymryd rhan lawn mewn fforymau democrataidd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Tu allan i ddigwyddiadau mae’r elfennau gohebiaeth a marchnata canlynol wedi’u darparu’n ddwyieithog:
- Mae gan bob myfyriwr yr hawl i anfon a derbyn gohebiaeth yn Gymraeg.
- Mae eu harwyddion a phrif bosteri yn yr adeilad yn ddwyieithog.
- Mae e-byst wedi’u hanfon at gyfran fawr o fyfyrwyr yn ddwyieithog ac maent yn cydnabod dewis iaith myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys e-byst hysbysebu allanol, blogiau a chylchlythyron.
- Mae ganddynt gyfrif X Cymraeg @undebmyfyrwyr. Mae pob cyfrif cymdeithasol arall @cardiffstudents yn cyfuno’r Gymraeg a’r Saesneg.