Sefydliadau sydd â'r Cynnig Cymraeg
Cymdeithas Amaethyddol Môn
- Mae gwasanaeth Cymraeg ar gael i bob cwsmer
- Atebir pob galwad ffôn yn Gymraeg yn gyntaf, a gall pob aelod o staff ddelio gydag ymholiadau yn y Gymraeg.
- Atebir pob gohebiaeth yn yr iaith y daw’r ymholiad i mewn.
- Cynhelir pob cyfarfod yn Gymraeg gyda pherson dynodedig i hwyluso’r drafodaeth, os bydd rhywun di-Gymraeg yn mynychu.
- Mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer bob swydd ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Iaith y Swyddfa ydi’r Gymraeg, ac anogir eu swyddogion a’u gwirfoddolwyr i wisgo nwyddau Iaith Gwaith
- Mae enw’r Gymdeithas yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf.
- Mae eu gwefan yn ddwyieithog.
- Mae adnoddau marchnata e.e. Pop-ups, Baneri, Posteri gyda’r Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal
- Mae’r Arwyddion ar y safle i gyd yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf
- Mae eu proffil ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog, ac yn cael ei ddiweddaru’n gyson.
- Mae pob neges yn cael ei roi’n ddwyieithog neu’n Gymraeg gyda chrynodeb yn y Saesneg
- Mae teitlau eu Prif Ddigwyddiadau (Sioe Môn, Sioe Aeaf Môn) yn ddwy-ieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf
- Mae Rhestr Gystadlaethau y Sioe Aeaf ar gael yn ddwyieithog . Mae Penawdau y Sioe Haf yn ddwyieithog ond nid oes cwmni yn darparu meddalwedd ar gyfer derbyn cystadleuwyr i’r Sioe Haf yn y Gymraeg ar hyn o bryd.
- Mae pob cyhoeddiad ar y maes yn ddwy-ieithog a mwyafrif y sylwebaeth yn ddwy-ieithog, heblaw am atyniadau allanol gan gwmnïau di-Gymraeg.
- Mae eu Cynllun Datblygu yn annog defnydd o’r Gymraeg ac yn amcan bwysig gan Gyngor y Gymdeithas i Gymreigio awyrgylch y Sioeau e.e. Y Cowt yn canolbwyntio ar adloniant Cymraeg, Ardal Fwyd sy’n rhoi cyfle i fusnesau lleol hyrwyddo a gwerthu eu cynnnyrch
- Wrth gyfarfod darparwyr nodir eu hymrwymiad i’r Gymraeg ac anogir hwy i wneud defnydd o‘r Gymraeg, a pharchu hunaniaeth Gymreig y Gymdeithas.
- Dosberthir rhestr o ddarparwyr gwasanaethau lleol gyda’r pecyn llogi safle er mwyn annog iddynt gefnogi cwmnïau lleol wrth osod eu cytundebau neu logi contractwyr.
- Wrth wneud ceisiadau am grantiau i ddatblygu’r safle rhoddir pwyslais ar sicrhau adnoddau sydd yn ei gwneud hi’n haws i gymdeithasau allanol lleol fedru fforddio cynnal digwyddiadau ar y maes e.e. peiriannau ar gael i gynorthwyo gyda costau gosod i fyny, glanhau, PA ac ati.
- Datblygu’r safle a’r adeiladau i fedru denu digwyddiadau mawr i’r ynys a thrwy hynny gefnogi’r economi leol a’r sector lletygarwch.
Cymdeithas MS Cymru
· Os byddwch yn anfon e-bost atynt yn Gymraeg, byddwch yn derbyn ymateb Cymraeg.
· Maent yn postio ar gyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg
· Mae ganddynt Lysgennad sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru, Daf Wyn, sy'n codi ymwybyddiaeth o MS trwy ei waith gyda MS Cymru ac fel cyflwynydd ar Heno (S4C)
· Maent yn rhestru sgiliau Cymraeg fel rhai dymunol neu hanfodol ac mae ganddynt siaradwyr Cymraeg/Saesneg dwyieithog rhugl a dysgwyr Cymraeg yn eu tîm bach
· Mae pamffledi MS Cymru, eu deunyddiau marchnata ac arwyddion mewn digwyddiadau yn ddwyieithog
· Maent yn defnyddio adnoddau Iaith Gwaith sy'n annog aelodau o'r cyhoedd i gychwyn sgwrs yn Gymraeg.
Cymdeithas Strôc
· Maent yn darparu gwasanaethau dwyieithog ar gyfer goroeswyr strôc drwy eu gwasanaethau wyneb yn wyneb a’u llwyfan ar-lein, Fy Nghanllaw Strôc.
· Maent yn monitro ac yn cofnodi dewisiadau iaith defnyddwyr y gwasanaeth, a phan wyddent beth yw dewis iaith unigolyn, eu nod fydd ysgrifennu atynt yn eu hiaith ddewisol.
· Maent yn hyrwyddo argaeledd eu gwasanaethau Cymraeg drwy eu sianeli cyfathrebu allanol, yn cynnwys eu gwefan a’u sianeli cyfryngau cymdeithasol.
· Bydd holl aelodau staff a leolir yng Nghymru yn ateb y ffôn â chyfarchiad dwyieithog, yn cynnwys negeseuon peiriant ateb wedi’u recordio ymlaen llaw, a bydd troedynnau e-byst a negeseuon e-byst y tu allan i oriau arferol y swyddfa yn ddwyieithog.
· Bydd yr holl ddeunyddiau cyhoeddusrwydd neu ddeunyddiau ysgrifenedig eraill sydd â’r nod o gyrraedd cynulleidfa yng Nghymru yn ddwyieithog. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
o Tudalennau cyfryngau cymdeithasol Cymru
o Datganiadau i’r wasg a gyhoeddwyd ymlaen llaw
o Taflenni am ddigwyddiadau a gwasanaethau
o Gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol am ofal strôc yng Nghymru
o Adrannau o’u gwefan sy’n benodol i Gymru
o Baneri ac arddangosfeydd naid
o Cylchlythyrau
Byddant yn gwneud ymdrechion i ddarparu astudiaethau achos a llefarwyr Cymraeg eu hiaith ar gyfer y cyfryngau.
Maent yn awyddus i recriwtio siaradwyr Cymraeg ar gyfer swyddi yng Nghymru. Byddant yn paratoi hysbysebion swyddi yn ddwyieithog ac yn sicrhau y gall ymgeiswyr ymgeisio yn Gymraeg am swyddi. Maent hefyd yn annog ac yn cefnogi staff cyfredol sy’n dymuno dysgu Cymraeg.
Cymen
- Maent darparu gwasanaethau cyfieithu i’r Gymraeg neu o’r Gymraeg.
- Maent yn darparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd i’r Gymraeg neu o’r Gymraeg.
- Maent yn darparu gwasanaethau trawsgrifio i’r Gymraeg neu o’r Gymraeg.
- Maent yn darparu gwasanaethau is-deitlo i’r Gymraeg neu o’r Gymraeg.
- Maent yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg dros y ffôn, wyneb yn wyneb, dros e-bost a chyfryngau cymdeithasol.
- Mae eu gwefan yn gwbl ddwyieithog.
- Mae eu holl weinyddiaeth fewnol fel cwmni yn cael ei wneud drwy’r Gymraeg yn unig.
Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy
- Gallwch ddarllen eu holl ddeunydd marchnata ar gyfer prosiectau yn y Gymraeg.
- Gallwch edrych ar eu gwefan a chysylltu â nhw ar gyfryngau cymdeithasol yn y Gymraeg.
- Gallwch gyfathrebu â nhw yn Gymraeg.
- Gallwch gyfrannu yn y Gymraeg yn eu digwyddiadau gan eu bod yn darparu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd.
- Mae ganddynt staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr sy'n siarad Cymraeg. Maent hefyd yn sicrhau mynediad i staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr dderbyn hyfforddiant a datblygiad yn y Gymraeg.
Cynghrair Pêl-Rwyd Gwynedd a Môn
- Cynghrair Pêl-rwyd leol sy’n cynnal gemau drwy gyfrwng y Gymraeg
- Dyfarnwyr yn rheoli gemau yn Gymraeg
- Defnyddir y Gymraeg wrth hyrwyddo’r gynghrair i dimau pêl-rwyd gogledd orllewin Cymru
- Cynhelir Pwyllgorau yn y Gymraeg
- Defnyddir y Gymraeg yn gyntaf ar dudalenau cymdeithasol y gynghrair
Cyngor ar Bopeth
· Pan fo pobl yng Nghymru yn cysylltu â nhw, byddant yn cael eu cyfarch yn weithredol gyda’r opsiwn i gyfathrebu â nhw yn Gymraeg.
· Pan byddant yn siarad gyda’u rhanddeiliaid yng Nghymru, byddant yn ymgysylltu’n ddwyieithog ac yn dangos eu bod yn gwneud Cynnig Cymraeg rhagweithiol.
· Bydd staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio iddynt yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u hannog i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith
· Nid yw’r Cynnig yn dibynnu ar unigolion i ffynnu – mae wedi’i integreiddio’n systemig yn y gwaith maent yn ei wneud fel sefydliad cenedlaethol
· Bod pobl sy’n defnyddio gwasanaethau Cyngor ar Bopeth yng Nghymru’n derbyn cynnig rhagweithiol i ddefnyddio’r Gymraeg