
Sefydliadau sydd â'r Cynnig Cymraeg
City & Guilds
- Maent yn ymrwymo i barhau i gynnig darpariaeth yn y Gymraeg
- Cysylltwch â nhw ar e-bost neu ar ffôn yn y Gymraeg
- Mae gwefannau Dysgu Iechyd a Gofal Cymru a Sgiliau i Gymru yn ddwyieithog
- Mae tudalen Gymraeg ar wefan City & Guilds ac ar wefan ILM yn esbonio eu hymrwymiad i’r Gymraeg.
- Gallwch gael mynediad i holl adnoddau eu cymwysterau ar-lein yn y Gymraeg ar gyfer cymwysterau Iechyd a Gofal a Gofal Plant a chymwysterau Adeiladu.
- Hefyd, mae rhai meysydd a chymwysterau blaenoriaethol wedi cael eu cyfieithu ac mae’r adnoddau ar gael ar eu gwefannau
- Byddwch yn derbyn newyddion am y cymwysterau contract yn ddwyieithog
Dilynwch gyfrifon cymdeithasol dwyieithog eu cymwysterau Iechyd a Gofal, Gofal Plant ac Adeiladu
Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru
- Bydd holl wasanaethau’r mudiad yn cael eu hysbysebu yn ddwyieithog, boed ar ffurf ddigidol ar y wefan a chyfryngau cymdeithasol neu ar ddeunydd hyrwyddo megis posteri neu sticeri.
- Mae cyfle i’w haelodau i gymryd rhan ym mhob gweithgaredd yn eu hiaith ddewisol. Mae cystadlaethau megis adloniant a siarad cyhoeddus yn cael eu cynnal yn benodol drwy gyfrwng y Gymraeg, ym mhob cystadleuaeth arall, nad sy’n fwriadol Saesneg na Chymraeg, bydd cyfle i gyfranogwyr gystadlu yn Gymraeg neu’n Saesneg.
- Mae CFfI Cymru yn gweithio mewn cydweithrediad gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg i gynyddu’r nifer o aelodau a staff sydd yn dysgu Cymraeg. Ac yn creu cyfleoedd cystadlu i ddysgwyr Cymraeg, ee, llefaru i ddysgwyr.
- Gall staff, aelodau, gwirfoddolwyr a’r cyhoedd sicrhau eu bod yn derbyn gwasanaethau Cymraeg, boed wyneb yn wyneb neu ar ffurf gohebiaeth, gyda holl ddeunydd yn cael eu hanfon yn ddwyieithog.
- Bydd offer cyfieithu ar y pryd ar gael i’w ddefnyddio yng Nghyfarfodydd pwyllgor Cyngor Cymru. Mewn cyfarfodydd is-bwyllgor, croesawir aelodau hefyd i gyfrannu yn y Gymraeg neu’r Saesneg, fel y dymunir.
Clybiau Plant Cymru
- Gallwch dderbyn cefnogaeth sector-benodol a Datblygiad Proffesiynol Parhaus drwy Swyddogion Hyfforddi a Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant iaith Gymraeg yn yr iaith o’ch dewis.
- Darparu gwybodaeth gyfamserol yn ddwyieithog ar eu gwefan a’n llwyfannau cyfrwng-cymdeithasol, yn cynnwys bwletinau wythnosol.
- Hyrwyddo eu gwasanaethau a’i gwybodaeth yn ddwyieithog ac yn sicrhau bod profiadau siaradwyr Cymraeg yn cael eu hadlewyrchu yn ein marchnata.
- Annog staff a lleoliadau i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg, drwy ddefnyddio’r prosiectau Cymraeg Gwaith a CAMAU gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
- Croesawu cyfathrebu yn y Gymraeg neu’r Saesneg, rhoddir yr un safon o wasanaeth yn y ddwy iaith.
CULTVR
- Mae eu gwefan dwyieithog ar gael i chi ei defnyddio.
- Mae’r Gymraeg i’w gweld yn amlwg yn CULTVR. Ganddynt arwyddion dwyieithog trwy’r adeilad; gan gynnwys adnoddau marchnata. Mae eu bwydlenni yn y bar a’r caffi hefyd yn ddwyieithog.
- Gallwch anfon lythyr neu e-bost yn Gymraeg atynt, a byddwch yn derbyn ateb yn Gymraeg.
- Maent yn cyfathrebu’n ddwyieithog; ebyst, llythyrau, cyfarchion, datganiadau’r wasg, cyfryngau cymdeithasol.
- Maent yn rhannu adnoddau dysgu Cymraeg gyda eu tîm, ac yn annog unigolion i ddatblygu sgiliau iaith.
- Gwyliech allan am y bathodynnau Iaith Gwaith er mwyn sgwrsio yn Gymraeg gyda aelodau o’r tîm mewn digwyddiadau.
Cwmni Da
- Cymraeg yw iaith weinyddol Cwmni Da
- Cymraeg yw iaith ein negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol
- Mae eu gwefan yn ddwyieithog
- Mae eu holl ddeunydd marchnata yn ddwyieithog
- Cymraeg yw iaith mwyafrif eu digwyddiadau, ac yn annog unigolion i gyfrannu yn Gymraeg.
Cwmni'r Fran Wen
- Cyflwyno cynyrchiadau theatr proffesiynol trwy gyfrwng y Gymraeg
- Darparu prosiectau ymgysylltu creadigol trwy gyfrwng y Gymraeg
- Darparu prosiectau datblygu artistiaid trwy gyfrwng y Gymraeg
- Darparu hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg
- Darparu hyfforddiant a chefnogaeth i siaradwyr Cymraeg newydd fel aelodau staff, cynulleidfa a chyfranogwyr
Cyfreithwyr Arnold Davies Vincent Evans
- Drwy gydol y broses o brynu neu gwerthu tŷ medrwch drafod y mater gyda cyfreithiwr a staff gweinyddol drwy gyfrwng y Gymraeg a medrwch hefyd ohebu gyda nhw drwy gydol y broses yn y Gymraeg. Gallent hefyd danfon ohebiaeth yn gysylltiedig â’r broses atoch yn y Gymraeg.
- Os ydych am brynu neu gwerthu eiddo masnachol gan gynnwys tir amaethyddol a ffermydd bydd eu cyfreithiwr yn medru trafod y mater yn y Gymraeg a gohebu gyda chi drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mae croeso i chi rhoi cyfarwyddiadau iddynt ynghlych paratoi ewyllys drwy gyfrwng y Gymraeg a gallent drafod y cyfarwyddiadau hynny a rhoi cyngor perthnasol i chi yn y Gymraeg. Os hoffech, gallent hefyd ohebu gyda chi yn y Gymraeg a pharatoi’r ewyllys yn y Gymraeg.
- Gallwch rhoi cyfarwyddiadau iddynt ynghlych paratoi pwerau atwrnai drwy gyfrwng y Gymraeg a gallent drafod y cyfarwyddiadau hynny a rhoi cyngor perthnasol i chi yn y Gymraeg. Os hoffech, gallent hefyd obehu gyda chi yn y Gymraeg.
- Bydd eu cyfreithwyr yn medru eich arwain drwy’r broses o wneud cais am Brofiant a dosrannu’r ystad a’ch cynghori ynghlych Treth Etifeddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Mae eu ein gwefan yn gwbl ddwyieithog.
- Os oes gennych ymholiad cyffredinol neu hoffech dderbyn amcangyfrif o’u costau yn delio gyda mater ar eich rhan yna medrwch drafod hyn gydag aelod o’u staff yn y Gymraeg
Cyfreithwyr JCP
- Gallwch ysgrifennu atyn yn y Gymraeg.
- Byddent yn gwneud bob ymdrech i drafod eich achos yn y Gymraeg.
- Mae eu gwefan yn ddwyieithog.
- Pan fo aelodau o’u tîm yn gallu cysylltu yn y Gymraeg, bydd y taflenni yma ar gael yn ddwyieithog.
- Mae siarad Cymraeg yn cael ei gyfri’n fantais pan yn recriwtio.
- Maent yn cefnogi digwyddiadau lleol sy’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.
- Maent yn cynnal brecwast busnes yn flynyddol i’w cleientiaid masnachol Cymreig er mwyn annog y defnydd o’r Gymraeg mewn busnes.
- Mae eu llinell talu awtomatig yn ddwyieithog.
Cyfrifwyr Huw Aled
- Mae eu holl wasanaethau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys:
-
- Cyfrifon hunan gyflogedig
- Cyfrifon rhent i landlordiaid
- Cyngor treth, gan gynnwys treth incwm, treth ar eiddo a threth etifeddiaeth
- Cyfrifon elusen, gan gynnwys archwiliad annibynnol
- Trafodaethau ffurfiol gyda'r Swyddfa Dreth, gan gynnwys llythyron a galwadau ffôn.
-
Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
- Mae CAFC yn ymrwymo i sicrhau bod y Gymraeg yn rhan greiddiol o brofiad ymwelwyr â Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad a’r Ffair Aeaf a bod modd iddynt fwynhau pob agwedd ar eu hymweliad yn Gymraeg.
- Wrth greu adnoddau newydd, mae CAFC yn mynd gam ymhellach ac yn uno’r ddwy iaith i ddod â’r Gymraeg at gynulleidfaoedd di-Gymraeg ac i sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o frand ac ethos CAFC.
- Mae delwedd gyhoeddus CAFC yn gwbl ddwyeithog, ynghyd â’i gwefan ac unrhyw negeseuon a gyhoeddir ar gyfryngau cymdeithasol.
- Mae CAFC yn annog ei staff a stiwardiaid sy’n medru’r Gymraeg i wneud cyhoeddiadau sain yn ddwyieithog.
- Mae CAFC yn sicrhau bod o leiaf un aelod o staff sy’n gallu siarad rhywfaint o Gymraeg ar gael ymhob gweithle lle bydd cyswllt â’r cyhoedd, ac mae’n annog staff sy’n gallu siarad Cymraeg i wisgo bathodyn Cymraeg pan fyddant wrth eu gwaith.
- Mae CAFC yn ymrwymo i barchu dewis iaith cydweithwyr, ymwelwyr a chwsmeriaid.
- Mae CAFC yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg ac yn ysgrifennu at bobl yn ddwyeithog neu yn eu dewis iaith.
- Mae CAFC yn cefnogi staff sydd am wella’u sgiliau iaith Gymraeg ac yn galluogi iddynt dderbyn hyfforddiant os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
- Lle y bo’n briodol bydd CAFC yn gosod amodau ieithyddol mewn cytundebau trydydd parti.
- Mae CAFC wedi ymrwymo i addysg a hyfforddiant ym maes amaethyddiaeth ac wrth weithio ag ysgolion a cholegau, aelodau’r cyhoedd ac aelodau o staff mae wedi ymrwymo i gynnig darpariaeth Gymraeg
Cymdeithas Amaethyddol Môn
- Mae gwasanaeth Cymraeg ar gael i bob cwsmer
- Atebir pob galwad ffôn yn Gymraeg yn gyntaf, a gall pob aelod o staff ddelio gydag ymholiadau yn y Gymraeg.
- Atebir pob gohebiaeth yn yr iaith y daw’r ymholiad i mewn.
- Cynhelir pob cyfarfod yn Gymraeg gyda pherson dynodedig i hwyluso’r drafodaeth, os bydd rhywun di-Gymraeg yn mynychu.
- Mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer bob swydd ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Iaith y Swyddfa ydi’r Gymraeg, ac anogir eu swyddogion a’u gwirfoddolwyr i wisgo nwyddau Iaith Gwaith
- Mae enw’r Gymdeithas yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf.
- Mae eu gwefan yn ddwyieithog.
- Mae adnoddau marchnata e.e. Pop-ups, Baneri, Posteri gyda’r Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal
- Mae’r Arwyddion ar y safle i gyd yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf
- Mae eu proffil ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog, ac yn cael ei ddiweddaru’n gyson.
- Mae pob neges yn cael ei roi’n ddwyieithog neu’n Gymraeg gyda chrynodeb yn y Saesneg
- Mae teitlau eu Prif Ddigwyddiadau (Sioe Môn, Sioe Aeaf Môn) yn ddwy-ieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf
- Mae Rhestr Gystadlaethau y Sioe Aeaf ar gael yn ddwyieithog . Mae Penawdau y Sioe Haf yn ddwyieithog ond nid oes cwmni yn darparu meddalwedd ar gyfer derbyn cystadleuwyr i’r Sioe Haf yn y Gymraeg ar hyn o bryd.
- Mae pob cyhoeddiad ar y maes yn ddwy-ieithog a mwyafrif y sylwebaeth yn ddwy-ieithog, heblaw am atyniadau allanol gan gwmnïau di-Gymraeg.
- Mae eu Cynllun Datblygu yn annog defnydd o’r Gymraeg ac yn amcan bwysig gan Gyngor y Gymdeithas i Gymreigio awyrgylch y Sioeau e.e. Y Cowt yn canolbwyntio ar adloniant Cymraeg, Ardal Fwyd sy’n rhoi cyfle i fusnesau lleol hyrwyddo a gwerthu eu cynnnyrch
- Wrth gyfarfod darparwyr nodir eu hymrwymiad i’r Gymraeg ac anogir hwy i wneud defnydd o‘r Gymraeg, a pharchu hunaniaeth Gymreig y Gymdeithas.
- Dosberthir rhestr o ddarparwyr gwasanaethau lleol gyda’r pecyn llogi safle er mwyn annog iddynt gefnogi cwmnïau lleol wrth osod eu cytundebau neu logi contractwyr.
- Wrth wneud ceisiadau am grantiau i ddatblygu’r safle rhoddir pwyslais ar sicrhau adnoddau sydd yn ei gwneud hi’n haws i gymdeithasau allanol lleol fedru fforddio cynnal digwyddiadau ar y maes e.e. peiriannau ar gael i gynorthwyo gyda costau gosod i fyny, glanhau, PA ac ati.
- Datblygu’r safle a’r adeiladau i fedru denu digwyddiadau mawr i’r ynys a thrwy hynny gefnogi’r economi leol a’r sector lletygarwch.
Cymdeithas Strôc
· Maent yn darparu gwasanaethau dwyieithog ar gyfer goroeswyr strôc drwy eu gwasanaethau wyneb yn wyneb a’u llwyfan ar-lein, Fy Nghanllaw Strôc.
· Maent yn monitro ac yn cofnodi dewisiadau iaith defnyddwyr y gwasanaeth, a phan wyddent beth yw dewis iaith unigolyn, eu nod fydd ysgrifennu atynt yn eu hiaith ddewisol.
· Maent yn hyrwyddo argaeledd eu gwasanaethau Cymraeg drwy eu sianeli cyfathrebu allanol, yn cynnwys eu gwefan a’u sianeli cyfryngau cymdeithasol.
· Bydd holl aelodau staff a leolir yng Nghymru yn ateb y ffôn â chyfarchiad dwyieithog, yn cynnwys negeseuon peiriant ateb wedi’u recordio ymlaen llaw, a bydd troedynnau e-byst a negeseuon e-byst y tu allan i oriau arferol y swyddfa yn ddwyieithog.
· Bydd yr holl ddeunyddiau cyhoeddusrwydd neu ddeunyddiau ysgrifenedig eraill sydd â’r nod o gyrraedd cynulleidfa yng Nghymru yn ddwyieithog. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
o Tudalennau cyfryngau cymdeithasol Cymru
o Datganiadau i’r wasg a gyhoeddwyd ymlaen llaw
o Taflenni am ddigwyddiadau a gwasanaethau
o Gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol am ofal strôc yng Nghymru
o Adrannau o’u gwefan sy’n benodol i Gymru
o Baneri ac arddangosfeydd naid
o Cylchlythyrau
Byddant yn gwneud ymdrechion i ddarparu astudiaethau achos a llefarwyr Cymraeg eu hiaith ar gyfer y cyfryngau.
Maent yn awyddus i recriwtio siaradwyr Cymraeg ar gyfer swyddi yng Nghymru. Byddant yn paratoi hysbysebion swyddi yn ddwyieithog ac yn sicrhau y gall ymgeiswyr ymgeisio yn Gymraeg am swyddi. Maent hefyd yn annog ac yn cefnogi staff cyfredol sy’n dymuno dysgu Cymraeg.