Maent yn cynnig gwasanaeth cyngor ariannol a rheoli buddsoddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gallwch gysylltu â nhw dros y ffôn neu dros e-bost trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae eu deunydd marchnata yng Nghymru yn ddwyieithog.
Maent yn annog i staff sy’n siarad Cymraeg wisgo bathodyn Iaith Gwaith mewn digwyddiadau, ac i ddefnyddio’r logo ar e-byst er mwyn dangos eu bod nhw’n siarad Cymraeg.
Maent yn gwerthfawrogi’r Gymraeg fel sgil ac yn cefnogi eu siaradwyr Cymraeg, yn cynnig cyfleoedd i rai sy’n dymuno dysgu’r iaith, ac yn awyddus i recriwtio siaradwyr Cymraeg.