Cyhoeddusrwydd a'r Cyfryngau
Bydd Banc Bwyd Arfon yn sicrhau bod yr holl ddeunyddiau ar-lein ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd unrhyw eitemau nad ydynt ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd, megis y wefan, yn cael eu blaenoriaethu i sicrhau mynediad cyfartal yn y ddwy iaith.
Cyfathrebu (Llafar ac Ysgrifenedig)
Croesewir ymholiadau yn Gymraeg a Saesneg ac anogir staff a gwirfoddolwyr i gyfathrebu yn yr iaith a ddefnyddiwyd yn wreiddiol. Ym mhob achos, mae staff a gwirfoddolwyr ar gael i siarad dros y ffôn, e-bost neu wyneb yn wyneb yn Gymraeg neu Saesneg.
Bydd unrhyw gyfathrebiadau a rennir gan y banc bwyd, megis cylchlythyrau digidol, ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Staff a Gweithle
Bydd pob swydd yn cael ei hysbysebu yn Gymraeg a Saesneg, a byddwn yn nodi ffafriaeth ar gyfer ymgeiswyr dwyieithog.
Darperir hyfforddiant yn newis iaith y staff neu'r gwirfoddolwr.
Rheoli Ansawdd
Bydd pob dogfen Gymraeg yn glir ac yn ddealladwy i'r siaradwr Cymraeg cyffredin.
Bydd cyfieithiadau yn cael eu hadolygu gan wirfoddolwyr penodedig sy'n siarad Cymraeg a dim ond os yw'n gwbl angenrheidiol y defnyddir gwasanaethau cyfieithu.