Stondin Eisteddfod yr Urdd 2024

Mae Eisteddfod yr Urdd bron yma ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at fod ym Mharc Margam am yr wythnos yn Eisteddfod Dur a Môr. Gobeithio y cawn gyfle i sgwrsio â llawer ohonoch ar ein stondin.

Byddwn yno o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Yn ogystal â chyfleoedd bob dydd i chi ddod i siarad gyda ni, bydd gweithgareddau arbennig yn cael eu cynnig gan bartneriaid, busnesau ac elusennau sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg.

Mae gan Gomisiynydd y Gymraeg restr o enwau safonol ar ein gwefan lle gallwch chwilio am sillafiad cywir a gwybodaeth am y lle hwnnw. Yn ystod y cyfnod cyn yr Eisteddfod, cadwch lygad am fideos newydd sbon ar ein cyfryngau cymdeithasol, yn cyflwyno ychydig o enwau lleoedd yn ardal Parc Margam. Bydd map rhyngweithiol newydd ar ein stondin i chi roi cynnig ar osod trefi a phentrefi Cymru yn y lle cywir. 

Ar ein stondin ar y dydd Llun (27 Mai) bydd yr arlunydd lleol, Rhys Padarn, neu Orielodl fel y caiff ei adnabod, yn barod i greu dwdl yn seiliedig ar ardal leol Eisteddfod Dur a Môr eleni, gan ddilyn steil unigryw Rhys. Sesiwn hwyliog fydd hon ar gyfer plant o 7 oed i fyny. Os nad oes posib i chi fynychu’r sesiwn bydd posib dilyn fideo o'r dwdl fydd ar y stondin yn ystod yr wythnos.

Bydd yr hwyl yn parhau ar y stondin ddydd Mawrth (28 Mai) gyda sgwrs a chân gan y Welsh Whisperer. Sesiwn hwyliog – dewch i ganu a dawnsio, holi cwestiwn neu dynnu selffi gyda’r dyn ei hun!

Mae Ambiwlans Awyr Cymru newydd dderbyn y Cynnig Cymraeg gan y Comisiynydd, sef cydnabyddiaeth am y ffordd y maen nhw’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith pwysig o ddydd i ddydd. Beth am edrych ar y fideo neu ddarllen y blog i wybod mwy am eu stori, neu dewch draw i’n stondin ar y dydd Mercher (29 Mai) i gymryd rhan yn y gweithgareddau gyda nhw.  

Mae Gwobr Dug Caeredin hefyd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg, ac ar ein stondin ddydd Iau i gynnal gweithgareddau hwyliog i’r teulu cyfan. Rydym yn ffodus iawn o Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru sy’n cynnal gweithgareddau i bobl ifanc ar hyd ac ar led y wlad. Beth am ddod draw i’n stondin i gymryd rhan yn eu gweithgareddau ar y prynhawn dydd Gwener (30 Mai).   


Cyhoeddi gwaith ymchwil  

 

Ddydd Gwener, 30 Mai ar ein stondin bydd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, yn cyhoeddi canlyniadau ein gwaith ymchwil newydd. Holwyd dros 1,600 o blant a phobl ifanc am eu barn ynghylch y cyfleoedd sy’n bodoli i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd.  

Beth am alw draw i’n gweld felly? Bydd croeso cynnes yn eich disgwyl ar ein stondin. Mae’r amserlen lawn i’w gweld yma.