- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook

Disgrifiwch yr hyn chi’n gwneud.
Sefydlwyd Ambiwlans Awyr Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth 2001. Ein gweledigaeth yw gwella bywydau cleifion a'u teuluoedd. Ni yw’r unig elusen ambiwlans awyr, sydd wedi’i lleoli yn, ac yn ymroddedig i, bobl Cymru. Mae ein gwasanaeth yn gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ac mae'n cael ei ariannu'n gyfan gwbl gan roddion elusennol. Bob blwyddyn, mae angen i ni godi £11.2 miliwn i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a’n fflyd o gerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.
Pam ei bod yn bwysig i chi fel elusen ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru yn eu hiaith ddewisol?
Er nad oes gofyn cyfreithiol arnom i weithredu darpariaethau yn Gymraeg, credwn mai dyna’r peth iawn i’w wneud ar gyfer ein staff, gwirfoddolwyr, cefnogwyr, a’r cymunedau yr ydym yn ymgysylltu â nhw.
Fel elusen sydd â’i gwreiddiau yng Nghymru, rydym yn cydnabod bod iaith yn rhan allweddol o hunaniaeth ddiwylliannol. Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o lawer o gymunedau, ac mae ymgysylltu â phobl yn eu mamiaith yn caniatáu inni eu gwasanaethu’n well.
Rydych chi ar hyn o bryd yn gweithio tuag at dderbyn y Cynnig Cymraeg – beth wnaeth eich ysbrydoli i gymryd y cam hwn?
Yn 2023, lansiwyd ein prosiect Iaith Gymraeg, prosiect a nodwyd yn ein strategaeth pum mlynedd i wella ein darpariaeth Gymraeg. Ar ôl siarad â swyddfa’r Comisiynydd, sylweddolon ni y byddai cymeradwyaeth swyddogol gan y Comisiynydd yn ffordd bwerus o ddangos ein hymrwymiad gan fedru dangos logo’r Cynnig Cymraeg yn hyderus.
Sut mae’r broses wedi bod hyd yma?
Un o’r agweddau mwyaf ysbrydoledig fu’r brwdfrydedd gan bawb. Ganwyd llawer o’n staff yng Nghymru, ac er nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg hyderus, maent yn angerddol dros gefnogi’r iaith.
O siarad â’m cyfoedion mewn digwyddiadau rhwydweithio trydydd sector, gwn fod llawer o sefydliadau’n wynebu’r un cyfyngiadau. Mae staff swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi bod yno i ni bob cam o’r ffordd, gyda thempledi ar gyfer ein cynllun a’n gwaith, adborth a chyngor.
Sut mae’r Gymraeg yn ffitio i mewn i’ch gwaith – boed hynny mewn sefyllfaoedd brys neu yn eich gwaith ymgysylltu â’r gymuned?
Fel elusen sydd wedi’i lleoli yng Nghymru ac sydd yn canolbwyntio ar y gymuned, mae’n bwysig i ni fod pobl yn cael y dewis i gyfathrebu yn y Gymraeg. Mae gennym dimau rhanbarthol i fynd i’r afael ag anghenion penodol pob ardal.
Hefyd, mae llawer o'r bobl sydd yn codi arian yn gyn-gleifion neu mae ganddynt gysylltiad personol â'n gwaith. Gall rhannu eu straeon fod yn emosiynol, ac mae cael ein gwasanaethau ar gael yn ddwyieithog yn rhywbeth rydym yn ymdrechu i’w gyflawni.
Mae’r Gymraeg hefyd yn rhan annatod o’n strategaeth ehangach, yn enwedig o ran cynaliadwyedd cymdeithasol. Boed hynny drwy ddeunyddiau dwyieithog, negeseuon cyfryngau cymdeithasol Cymraeg, neu sicrhau bod staff sy’n siarad Cymraeg ar gael pan fo’n bosibl, rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws pob maes o’n gwaith.
Pa gamau rydych chi wedi’u cymryd hyd yma i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn eich sefydliad?
Fel rhan o’n hymrwymiad i gryfhau ein darpariaeth Gymraeg, rydym wedi cyflwyno sawl menter allweddol megis, polisi Iaith Gymraeg newydd, cyflawni y Cynnig Cymraeg, cronfa ddata o staff sy'n siarad Cymraeg a'u lefelau cymhwysedd, mwy o gyfleoedd dysgu Cymraeg i staff, a gwefan ddwyieithog newydd.
Mae codi ymwybyddiaeth wedi bod yn rhan allweddol o'r daith hon. Rydym wedi annog staff i gymryd camau bach, fel dechrau e-bost gyda "Bore da" neu "Prynhawn da" a llofnodi gyda "Diolch." Mae’r camau syml hyn yn helpu i integreiddio’r iaith i fywyd gwaith bob dydd ac yn sicrhau bod pawb, waeth beth fo’u hyfedredd Cymraeg, yn gallu cymryd rhan yn y fenter hon.
Beth fydd derbyn y Cynnig Cymraeg yn ei olygu i chi a’r bobl rydych chi’n eu cefnogi?
Bydd ennill cydnabyddiaeth swyddogol am ein hymrwymiad i’r Gymraeg yn garreg filltir anhygoel, rhywbeth y gallwn ei arddangos fel bathodyn anrhydedd sy’n adlewyrchu ymroddiad a gwaith caled pawb dan sylw.
Mae derbyn y Cynnig Cymraeg yn wobr ac yn dystiolaeth bod ein hymdrechion i wella’r ddarpariaeth Gymraeg wedi cael effaith wirioneddol. Yn bwysicach fyth, mae’n rhoi sicrwydd i bobl Cymru ein bod wedi ymrwymo i ymgysylltu â nhw yn eu mamiaith. Bydd y gydnabyddiaeth hon yn cryfhau ein perthynas â chefnogwyr, y cyhoedd a’n partneriaid, gan atgyfnerthu ein rôl fel sefydliad gwirioneddol Gymreig.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i elusennau neu sefydliadau eraill sy’n ystyried dechrau ar eu taith iaith eu hunain?
Mae cyfathrebu yn allweddol. Mae elusennau yn aml yn wynebu cyfyngiadau adnoddau; amser ac arian. Dyna pam mae cyfathrebu gyda'ch cydweithwyr yn hollbwysig.
Trwy gynnwys gwahanol adrannau, siarad â phobl ar bob lefel, ac egluro manteision darpariaeth Gymraeg, rydym wedi creu ymdeimlad o bwrpas. I rai adrannau, roedd y buddion ariannol yn allweddol. Mae rhai cyllidwyr grant angen polisi iaith Gymraeg, felly defnyddiwyd hwn fel cyfle i ddangos sut y gall buddsoddi yn yr iaith agor drysau i gyllid ychwanegol.
I eraill, roedd y ffocws ar enw da a ffydd yn yr elusen. Canfu ymchwil gan y Comisiwn Elusennau fod 81% o siaradwyr Cymraeg yn dweud eu bod yn ymddiried mwy mewn elusennau sydd yn cyfathrebu yn y Gymraeg. Gall y math hwnnw o fewnwelediad fod yn amhrisiadwy wrth adeiladu cefnogaeth fewnol i fenter Gymraeg.
Drwy gadw datblygiad y Gymraeg ar yr agenda a’i gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael bod yn rhan o'r ymgyrch, gallwch wneud cynnydd gwirioneddol. Mae’n ymrwymiad parhaus i wreiddio’r Gymraeg mewn gweithrediadau bob dydd a sicrhau ei bod bob amser yn cael yr ystyriaeth sy’n ddyledus iddi.